Modiwl DXC-3003:
Gwaith Maes: Barcelona
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
20.000 Credydau neu 10.000 Credyd ECTS
Semester1
Trefnydd: Dr Eifiona Lane
Amcanion cyffredinol
- Cyflwyno a datblygu gwybodaeth am ddaearyddiaeth ffisegol, economaidd a diwylliannol, a hanes dinas Barcelona a rhanbarth hunanreolaethol Catalonia, Sbaen;
- Datblygu medrusrwydd mewn cymhwyso methodolegau ymchwiliol a dadansoddol at sefyllfa Ewropeaidd y tu allan i Brydain, a defnyddio strategaethau ymchwiliol priodol yn ymwneud â gwahaniaethau diwylliannol, gwleidyddol ac ieithyddol;
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o faterion yn ymwneud â datblygu rhanbarthol yng nghyd-destun Barcelona fel prifddinas ranbarthol a Catalonia fel rhanbarth hunanreolaethol mewn cyd-destun Ewropeiadd;
- Meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o faterion, adnoddau, polisi a dulliau gweithredu yn ymwneud â chynllunio, busnes, cadwraeth natur, twristiaeth gynaliadwy, treftadaeth ac iaith yn Barcelona a Catalonia. Bydd themâu penodol yn cael eu dewis ar gyfer ymweliad maes pob grŵp a'u hegluro yn ystod y seminar cyntaf dan arweiniad staff.
- Defnyddio a hyrwyddo sgiliau astudio a medrusrwydd pellach mewn ymchwilio a chasglu data mewn lleoliad daearyddol newydd; coladu, dadansoddi a gwerthuso’r data hynny a chyflwyno darganfyddiadau mewn ystod o ffurfiau cydlynol – y cyflwyniad cynllunio, traethawd ymchwil estynedig, a thasgau byrion.
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl 20 credyd hwn ar Lefel Tri, a gynhelir dros un semester, yn cynnwys yr elfennau canlynol ac fe'i hasesir yn gyfan gwbl trwy waith cwrs: - • Ymweliad maes preswyl saith diwrnod i ddinas Barcelona a Rhanbarth Ymreolaethol Catalonia, Sbaen. Darperir amserlen fanwl i'r grŵp sy'n cynnwys cyfnod o ymchwil unigol.
• Cyfres o seminarau paratoi awr yr un dan arweiniad staff, Wythnosau 1 – 5. Mae’r rhain yn orfodol a chedwir cofrestr.
• Tasg ymchwiliadol a dadansoddol dan gyfarwyddyd i ddarparu at gyflwyniad PowerPoint ffurfiol 10 munud yn wythnos 5. Gwneir hyn mewn grwpiau o 2 – 3 myfyriwr gyda phob un yn ymdrin â thema benodedig a fydd yn berthnasol fel cefndir ymchwil i’r daith.
• Yn ystod yr ymweliad, cynhelir ymweliadau grŵp gyda theithiau tywys i safleoedd ac adnoddau sy’n berthnasol i bynciau gradd y myfyrwyr. Bydd y rhain yn cydymffurfio’n llawn â chanllawiau Iechyd a Diogelwch y Brifysgol. Bydd myfyrwyr yn cytuno i ddilyn cod ymarfer ac ymddygiad proffesiynol y modiwl yn ystod yr ymweliad.
• Byddwch angen cynllunio ymlaen llaw beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio amser rhydd yn ystod yr ymweliad er mwyn casglu deunydd/arsylwadau maes a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich adroddiad ymchwil. Ar ôl i chi ddychwelyd bydd angen i chi gyflwyno adroddiad gwerthusol a dadansoddol, a ysgrifennwyd gennych chi eich hun, erbyn diwedd y semester (dyddiad i’w gyhoeddi’n ddiweddarach).
Meini Prawf
trothwy
1] Dim o bwys wedi ei hepgor neu’n anghywir o ran defnyddio gwybodaeth / sgiliau
2] Rhywfaint o ddealltwriaeth o elfennau theoretig, cysyniadol ac ymarferol
3] Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth i’w weld yn ysbeidiol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir.
Mae hyn yn rhoi safon foddhaol PASIO 40 – 49%
dda
1] Defnyddir yn gywir lawer neu’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd. 2] Gafael dda/ddigonol ar elfennau theoretig/cysyniadol/ymarferol 3] Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth yn dda/foddhaol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir 4] Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol. Mae hyn yn rhoi safon Foddhaol i Uchel PASIO 50 – 69
rhagorol
1] Perfformiad eithriadol, arbennig o ddawnus
2] Defnyddir y wybodaeth berthnasol yn gywir.
3] Gafael ragorol ar elfennau theoretig/cysyniadol/gwybodaeth wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir
4] Tystiolaeth gref o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
Mae hyn yn rhoi safon Ragorol DOSBARTH CYNTAF 70%+ +
Canlyniad dysgu
-
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o bynciau a materion daearyddol a welir yn Barcelona a Catalonia;
-
Datblygu sgiliau a medrusrwydd yn y maes o ran coladu, dadansoddi, dehongli, gwerthuso ac adrodd ar ymchwil unigol mewn lleoliad daearyddol newydd.
-
Medrusrwydd wrth gyflwyno darganfyddiadau a chasgliadau ymchwil seiliedig ar waith maes a gwefannau academaidd mewn adroddiad ymchwil ac ar lafar.
-
Gallu cynllunio a llunio cyflwyniad PowerPoint clir a graenus mewn grŵp bychan.
-
Cynnal proses anffurfiol ac elfennol o adolygu cyfoedion.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Asesiad llafar o gyflwyniad powerpoint | 10.00 | ||
Adroddiad ymchwil | 40.00 | ||
Tasgau byr ar gynnwys ymweliad maes. | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- L700: BA Geography year 3 (BA/GEOG)
- L702: BA Geography (4 yr with placement) year 4 (BA/GEOG4)
- L701: BA Geography (with International Experience) year 4 (BA/GEOGIE)
- F800: BSC Geography year 3 (BSC/GEOG)
- F806: BSc Geography (4 yr with placement) year 4 (BSC/GEOG4)
- F802: BSc Geography (with International Experience) year 4 (BSC/GEOGIE)
- F801: MGeog Geography year 3 (MGEOG/G)
- F805: MGeog Geography with International Experience year 4 (MGEOG/GIE)