Modiwl DXC-3013:
MATERION CYFREDOL MEWN DAEARYDDIAETH DDYNOL
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Eifiona Lane
Amcanion cyffredinol
Mae hyn yn fodwl 10 credyd sydd yn seiliedig ar ymchwil yr unigolyn ac yn galluogi’r myfyriwr i ymchwilio yn ddwfn i mewn i fater cyfoes mewn Daearyddiaeth Ddynol, a hynny ar ffurf ymchwil o lenyddiaeth. Cynhelir y modwl yn semester 2 a chynnyrch y gwaith cwrs fydd traethawd a phoster academaidd ar y pwnc ymchwil. Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio yn ddwfn i’w pwnc dewisol ; fe fydd hyn yn seiliedig ar ymgynghoriad a thrafodaeth gyda’r cydlynydd modwl. Gall hyn adlewyrchu diddordebau’r unigolyn neu fod wedi ei gynnig gan y cydlynydd. Rhoddir gysidraeth i faterion ar lefel bydol ond gyda phwyslais ar faterion Ewropeaidd a lleol. Dylai’r prosiect fod yn wahanol i’r hyn ddewiswyd fel testun prosiect Anrhydedd y myfyriwr.
Dylai myfyrwyr ddangos mynediad at amrediad o adnoddau gan gynnwys cyfnodolion academaidd wedi’u canoli , testunau ar ffurf electroneg yn ogystal â phrint, ynghyd ag ystod eang o adroddiadau yn y wasg ac ar y rhyngrwyd.
Cynnwys cwrs
Mae’r modwl hwn yn rhedeg yn semester 2 ac yn galluogi’r myfyriwr i wneud ymchwil unigol llenyddol ar fater cyfoes mewn daearyddiaeth ddynol. Caiff canlyniadau’r ymchwil eu cyflwyno ar ffurf traethawd a thrwy greu poster. Mae’r dystiolaeth weledol yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa o gyfoedion o’r modwl. Rhaid defnyddio ystod briodol o ffynonellau i gynnal yr ymchwil a dylai’r prosiect fod yn wahanol o’r hyn ddewisir fel pwnc Prosiect Ymchwil Anrhydedd y myfyriwr. Dewisir y pwnc gan y myfyrwyr, thrwy ymgynghoriad gyda chydlynydd modwl.
Meini Prawf
ardderchog
Gwych (Safon wych Dosbarth Cyntaf: A- i A**)
a. Perfformiad caboledig , medrus dros ben .
b. Y wybodaeth ymchwil wedi’u harddangos yn gywir.
c. Gafael gwych o elfenneu ddamcaniaethol/ cysyniadol / ymarferol
ch. Integreiddiad da o ddamcaniaeth / gwybodaeth / ymarferoldeb er mwyn cyflawni gofynion y dasg.
d. Tystiolaeth gref o ddefnydd sgiliau gwerthusol a chreadigol
dd. Defnydd critigol o lenyddiaeth brimaidd a llenyddiaeth eraill rhoddir yn y ddarlith., y tu hwnt i’r disgwyl.
trothwy
Trothwy (Safon Pasio : D- i D+)
a. Dim esgeulustod neu wybodaeth anghywir o ran sgiliau trefnu gwybodaeth
b. Peth deallusrwydd o elfennau damcaniaethol/ cysyniadol / ymarferol.
c. Cyfuno ysbeidiol o ddamcaniaeth / gwybodaeth / ymarferoldeb er mwyn cyflawni gofynion y dasg.
ch.Defnydd o lenyddiaeth brimaidd.
da
Da (Safon Ganolog i safon uchel Pasio: C- I B+)
a. Peth neu’r rhan fwyaf o wybodaeth a sgiliau cyflwyno gwybodaeth wedi’u harddangos yn glir
b. Gafael da/ gweddol ar elfenneu ddamcaniaethol/ cysyniadol / ymarferol
c. Integreiddiad da / gweddol o ddamcaniaeth / gwybodaeth / ymarferoldeb er mwyn cyflawni gofynion y dasg.
ch .Tystiolaeth o ddefnydd sgiliau gwerthusol a chreadigol
d. Defnydd critigol o lenyddiaeth brimaidd a llenyddiaeth eraill rhoddir yn y ddarlith.
Canlyniad dysgu
-
I ddeall sut mae’r mater wedi ei phortreadu a’i chynrychioli gan y cyfryngau
-
I fedru cyflwyno ymchwil i gynulleidfa o gyfoedion , yn weledol ac ar lafar.
-
I ddeall mater daearyddol penodol mewn dyfnder
-
I arddangos y gallu i gynnal ymchwil
-
I ddangos defnydd priodol o ffynonellau
-
I ddangos y gallu i arfarnu llenyddiaeth briodol yn gritigol
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Aseiniad traethawd | 60.00 | ||
Poster presentation of theme | 20.00 | ||
CYFLWYNIAD UNIGOL | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/dxc-3013.htmlRhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- F801: MGeog Geography year 3 (MGEOG/G)
- F805: MGeog Geography with International Experience year 4 (MGEOG/GIE)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- L700: BA Geography year 3 (BA/GEOG)
- L701: BA Geography (with International Experience) year 4 (BA/GEOGIE)
- F800: BSC Geography year 3 (BSC/GEOG)
- F806: BSc Geography (4 yr with placement) year 3 (BSC/GEOG4)
- F802: BSc Geography (with International Experience) year 4 (BSC/GEOGIE)
- F801: MGeog Geography year 3 (MGEOG/G)
- F805: MGeog Geography with International Experience year 4 (MGEOG/GIE)