Modiwl DXC-3702:
Cynllun Rheoli
Cynllun Rheoli 2024-25
DXC-3702
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1
30 credits
Module Organiser:
Prysor Williams
Overview
Mae'r modiwl yn seiliedig ar asesu safle sydd eisoes yn bodoli i ateb cwestiwn penodol sy'n berthnasol i ddefnyddio tir yr ardal. Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth cefndir ac yn cael cyfle i ymweld â'r safle a chynnal trafodaethau gyda pherchnogion/rheolwyr y safle. Bydd cynllun rheoli/dogfen strategaeth yn cael ei ddarparu drwy ddefnyddio'r wybodaeth hon yn ogystal â data ffisegol, biolegol, technegol, economaidd a GIS perthnasol arall. Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth fanwl i ddiffinio cwmpas y cynllun a¿r disgwyliadau. Byddant yn cael mynediad at gefnogaeth diwtorial (gan gynnwys GIS) i ymdrin â materion technegol fel bo'r angen.
Assessment Strategy
-threshold -(D) Mae'r ddogfen wedi ei strwythuro'n rhesymegol ac mae'n cynnwys dadansoddi, gwerthuso a thrafodaeth cyfyngedig. Disgrifir rhannau technegol y ddogfen yn rhesymegol ond heb ddadansoddi na dehongli manwl. Mae rhai camgymeriadau yn y rhagdybiaethau neu'r cyfrifiadau. Mae'r drafodaeth yn gyfyngedig o ran cwmpas a dyfnder. Mae safon y cyflwyniad yn dderbyniol, gyda defnydd cyfyngedig o fapiau wedi deillio o'r data a ddarparwyd.
-good -(B)Mae'r ddogfen wedi ei strwythuro¿n rhesymegol ac mae'n cynnwys dadansoddi, gwerthuso a thrafodaeth priodol. Disgrifir rhannau technegol y Cynllun yn rhesymegol gyda dadansoddi a dehongli manwl. Mae ychydig o gamgymeriadau yn y rhagdybiaethau neu'r cyfrifiadau. Mae'r drafodaeth yn cynnwys dehongli a defnyddio beirniadol. Mae safon y cyflwyniad yn dda, yn cynnwys mapiau priodol wedi deillio o'r data a ddarparwyd.
-excellent -(A) Mae'r ddogfen wedi ei strwythuro'n rhesymegol ac mae'n cynnwys dadansoddi, gwerthuso a thrafodaeth priodol. Mae'r dadansoddi'n fanwl gyda thystiolaeth o syniadau gwreiddiol. Disgrifir rhannau technegol a gwerthusol y Cynllun yn rhesymegol gyda dadansoddi a dehongli manwl iawn. Nid oes camgymeriadau yn y rhagdybiaethau na'r cyfrifiadau. Mae'r drafodaeth yn cynnwys dehongli a defnyddio beirniadol, gan gynnwys sylwadau sy'n adlewyrchu'r ddealltwriaeth o wendidau a chryfderau'r fethodoleg a ddefnyddir. Mae safon y cyflwyniad yn uchel iawn, yn cynnwys mapiau o ansawdd uchel wedi deillio o¿r data a ddarparwyd.
Learning Outcomes
- Bod eisoes â data bioffiseg, technegol, economaidd/ economaidd-gymdeithasol a daearyddol perthnasol wedi ei gasglu, ynghyd ag unrhyw gyfyngiad a deddf gwlad briodol i ganiatáu gwerthuso trefnus o'r safle.
- Bod yn gyfarwydd â pholisi a deddfwriaeth Llywodraeth yr UE / DU, polisïau cyrff statudol yn ogystal â chyrff / rhanddeiliaid perthnasol eraill o safbwynt elfen defnyddio tir y safle astudio.
- Bod yn ymwybodol o'r ymarferion rheoli gorau o safbwynt rheoli'r elfen defnyddio tir neu arweddion y safle astudio.
- Defnyddio technegau gwerthuso, modelu a delweddu (e.e. GIS) perthnasol i gynnal asesiadau a gwneud rhagfynegiadau yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol.
- Hunan-gymhelliant, rheoli amser priodol a defnyddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn a thrwy fodiwlau eraill i gwblhau cynllun rheoli / dogfen strategaeth ar gyfer y safle astudio, sy'n ymdrin â chwestiynau'r `cwsmer'.
Assessment method
Case Study
Assessment type
Crynodol
Description
Disgrifiad o'r safle
Weighting
20%
Due date
28/10/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cynllun Rheoli ar gyfer y safle
Weighting
80%
Due date
16/12/2022