Modiwl ICC-4311:
Programmable Logic Controllers
Programmable Logic Controllers 2025-26
ICC-4311
2025-26
School of Computer Science & Engineering
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Iestyn Pierce
Overview
Mae'r modiwl hwn yn gyflwyniad ymarferol i ddefnyddio rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy mewn lleoliad diwydiannol, wedi'i asesu trwy waith cwrs gyda chymysgedd o weithgareddau damcaniaethol ac ymarferol. Yn ogystal â threulio amser yn y labordy yn adeiladu a phrofi systemau ymarferol yn seiliedig ar PLCs, byddwch hefyd yn dysgu egwyddorion dyfnach eu gweithrediad a'r safonau rhyngwladol ar gyfer eu rhaglennu. Mae'r modiwl hefyd yn cyflwyno rhai syniadau ynghylch sut y gellir ymgorffori PLCs mewn "systemau diogelwch swyddogaethol" yn ogystal â chyflwyno teulu safonau system diogelwch swyddogaethol IEC-61508, conglfaen gweithrediad diogel systemau ym mhob math o ddiwydiannau.
Crynodeb o'r cynnwys: • Nodweddion cynllunio a nodweddion gweithredol systemau rheolydd rhesymeg rhaglenadwy. • Pensaernïaeth fewnol Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy • Mathau o ddyfeisiau mewnbwn ac allbwn. • Mathau o gysylltiadau cyfathrebu a ddefnyddir. • Technegau rhaglennu rhesymeg. • Rhaglenni profi a dadfygio
Assessment Strategy
trothwy -Cyfwerth â 40%.Yn defnyddio meysydd allweddol o theori neu wybodaeth i gyflawni Canlyniadau Dysgu'r modiwl. Yn gallu llunio ateb priodol i ddatrys tasgau a chwestiynau'n gywir. Yn gallu cymhwyso technegau a gweithdrefnau unigol, ond nid oes ganddo ymwybyddiaeth o'r cysylltiadau rhyngddynt.
-da -Cyfwerth â'r ystod 60%-69%. Yn dangos mwy o feistrolaeth ar y technegau a'r cysyniadau. Mae atebion yn dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion sylfaenol. Yn cymhwyso'r technegau gan ddangos gwybodaeth am y cyd-destun ehangach.
-rhagorol -Cyfwerth â'r ystod 70%+. Mae atebion i broblemau wedi'u dadlau'n dda a'u disgrifio'n fanwl. Soffistigedigrwydd o ran dull y tu hwnt i gymhwyso rheolau a gweithdrefnau heb feirniadaeth. Yn gallu cysylltu themâu a syniadau ar draws y modiwl.
Learning Outcomes
- Dadansoddi nodweddion cynllunio a nodweddion gweithredol systemau rheolydd rhesymeg rhaglenadwy.
- Dewis a chymhwyso'r technegau rhaglennu Rheolydd Rhesymeg Rhaglenadwy mwyaf priodol ar gyfer problem arbennig.
- Gwerthuso cynlluniau yn erbyn amcanion cynllunio.
- Llunio rhaglen rheolydd rhesymeg rhaglenadwy sy'n gweithio
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad ysgrifenedig ac ymarferol.
Weighting
60%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad ysgrifenedig unigol
Weighting
40%