Modiwl LCE-3101:
Trin a Thrafod Cyfieithu
Trin a Thrafod Cyfieithu 2023-24
LCE-3101
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Andrew Edwards
Overview
Bwriad y modiwl hwn yw datblygu ac atgyfnerthu ymhellach sgiliau cyfieithu a enillwyd gan fyfyrwyr yn eu cyrsiau iaith. Trwy ystyried cyfieithu fel proses, mae'n craffu ar gyfieithu ar wahanol lefelau testunol, o lefel geiriau a gramadeg, i'r lefel destunol a phragmataidd sy'n ystyried cydlyniad, cywair a mathau o destun. Mae'n rhoi fframwaith i'r myfyrwyr i ystyried yr anawsterau cyfieithu yn y parau iaith a ddewiswyd ganddynt ac i ymchwilio i strategaethau a'u goblygiadau.
Darllen hanfodol
Baker, Mona. In Other Words: A Coursebook on Translation, 2nd edition (London: Routledge, 2011). Hatim, Basil and Munday, Jeremy. Translation: an Advanced Resource Book (London: Routledge, 2004).
Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr gael adnoddau ieithyddol penodol megis geiriaduron dwyieithog ac uniaith.
Learning Outcomes
- Cydnabod bod cyfieithu'n digwydd mewn perthynas â swyddogaethau cyfathrebu, mhethau o destun a nodweddion macro a microdestunol cysylltiedig.
- Dangos dealltwriaeth o wahanol fathau o anawsterau wrth gyfieithu.
- Defnyddio strategaethau cyfieithu systematig ac effeithiol.
- Llunio cyfieithiad digonol i iaith gyntaf y myfyriwr.
- Ymresymu'n feirniadol ac amddiffyn penderfyniadau cyfieithu.
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
70%