Modiwl LCS-3040:
Iaith Sbaeneg 2 (3 Iaith)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Prof Helena Miguelez-Carballeira
Amcanion cyffredinol
- Atgyfnerthu meysydd allweddol gramadeg uwch.
- Datblygu ymhellach sgiliau cyfieithu uwch mewn profion i'r iaith darged ac o'r iaith darged.
- Meithrin sgiliau llafar a gwrando o safon uchel trwy wylio a gwrando ar amrywiaeth eang o ddeunyddiau clyweled.
- Hyrwyddo defnydd priodol o arddulliau a chyweiriau mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Datblygu a mireinio sgiliau uwch wrth wneud tasgau aralleirio ac ysgrifennu traethodau ffurfiol strwythuredig. Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn gweithio tuag at ennill C1/C2 ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd.
Cynnwys cwrs
Nod y modiwl 40 credyd hwn sy'n para trwy'r flwyddyn yw hyrwyddo defnydd priodol o arddull a chywair ym mhob darn o waith llafar ac ysgrifenedig a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymdrin ag amrywiadau cywair a mynegiant idiomatig mewn modd hyderus a chywir. Trwy ddarllen testunau amrywiol, a gweld strwythurau gramadegol cymhleth a deunyddiau clyweledol, mae myfyrwyr yn meithrin sgiliau darllen, ysgrifennu, gwrando a llafar sy'n cyfateb i safon myfyrwyr iaith yn eu blwyddyn olaf.
Nid oes testun gosod ar gyfer y modiwl iaith hwn, ond caiff myfyrwyr eu hannog yn gryf i brynu copi o'r llyfrau canlynol i'w hastudio'n annibynnol:
Butt, John and Carmen Benjamin (2011) A New Reference Grammar of Modern Spanish, London and Oxford: Arnold. Pountain, Christopher, Teresa de Carlos and Angela Howkins (2011) Practicing Spanish Grammar: A Workbook, London a Rhydychen: Arnold.
Meini Prawf
da
50-69%: Dangos ystod eang o eirfa, gwybodaeth o ramadeg a medru eu mynegi eu hunain yn y sgiliau a brofir.
trothwy
40-49%: Dangos medrusrwydd cyffredinol yn y sgiliau a brofir.
ardderchog
70+%: Bydd yr ymgeiswyr gorau yn dangos gallu yn y sgiliau a brofir, sydd bron fel siaradwyr brodorol, gyda lefelau uchel o hyder a dawn wrth eu mynegi eu hunain. Byddant yn defnyddio¿r agweddau technegol ar yr iaith mewn ffordd sydd, fwy na heb, yn naturiol.
Canlyniad dysgu
-
- Deall a phrosesu testunau cymhleth a deunyddiau clyweledol sy'n amrywio o ran eu harddull, eu tôn a'u cywair a rhoi sylwadau cryno a rhugl ar y testunau hynny.
-
- Dangos gallu yn y gwaith llafar i gyflwyno mewn Sbaeneg rhugl ddadleuon y gallai siaradwyr Sbaeneg iaith gyntaf eu dilyn yn gymharol rwydd.
-
- Dangos yn y traethodau a'r gwaith cyfieithu afael soffistigedig ar Sbaeneg a Chymraeg/Saesneg sy'n effro i ystod rethregol y ddwy iaith.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Crynodeb Erthygl | 25.00 | ||
Traethawd | 25.00 | ||
Arholiad cyfieithu | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 334 | |
Lecture | 1 Conversation Class x 1 hour per week for 22 weeks |
22 |
Seminar | 1 text based seminar x 1 hour per week for 22 weeks |
22 |
Lecture | 1 Translation Class x 1 hr per week for 22 weeks |
22 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- T120: BA Chinese & Spanish with French year 4 (BA/CHSF)
- T121: BA Chinese & Spanish with German year 4 (BA/CHSG)
- T122: BA Chinese & Spanish with Italian year 4 (BA/CHSI)
- W8R8: BA Creative Writing and Modern Languages year 4 (BA/CWML)
- R912: BA French, German & Spanish year 4 (BA/FGS4#)
- R91F: BA French, German & Spanish [with Foundation Year] year 3 (BA/FGS4#F)
- R917: BA French, Italian & Spanish year 4 (BA/FIS4#)
- R914: BA French & Spanish with German year 4 (BA/FSG4)
- R915: BA French & Spanish with Italian year 4 (BA/FSI4)
- R925: BA German, Italian & Spanish year 4 (BA/GIS4#)
- R922: BA German & Spanish with French year 4 (BA/GSF4)
- R923: BA German & Spanish with Italian year 4 (BA/GSI4)
- R926: BA Italian & Spanish with French year 3 (BA/ISF4)
- R927: BA Italian & Spanish with German year 3 (BA/ISG4)
- Q3R8: BA Linguistics and Modern Languages year 4 (BA/LML)
- R800: BA Modern Languages year 4 (BA/ML)
- R807: BA Modern Languages & Criminology & Criminal Justice year 4 (BA/MLCCJ)
- R805: BA Modern Languages & Cymraeg year 4 (BA/MLCYM)
- R801: BA Modern Languages and English Literature year 4 (BA/MLEL)
- R803: BA Modern Languages & Film Studies year 4 (BA/MLFS)
- R804: BA Modern Languages & History year 4 (BA/MLH)
- R802: BA Modern Languages & Media Studies year 4 (BA/MLMS)
- R806: BA Modern Languages & Philosophy, Ethics & Religion year 4 (BA/MLPRE)
- W3R8: BA Music and Modern Languages year 4 (BA/MUSML)