Modiwl SCS-4008:
Cynllunio Ieithyddol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Rhian Hodges
Amcanion cyffredinol
-
Bydd y modiwl yma yn gosod cynllunio ieithyddol yn ei gyd-destun rhyngwladol gan edrych ar wahanol enghreifftiau o gynllunio iaith mewn gwledydd amrywiol.
-
Bydd y modiwl yn cynnwys astudiaeth drylwyr o faes cynllunio ieithyddol yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ddatblygiad cymdeithasol hanesyddol yr iaith Gymraeg, y system addysg, a datblygiad deddfwriaethol y Gymraeg, yn enwedig Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
-
Byddwn yn astudio cynlluniau iaith amrywiol, gan gynnwys Cynllun Iaith Prifysgol Bangor a'r newid i'r safonau o dan y Mesur iaith newydd.
-
Byddwn hefyd yn astudio'r ddadl ynglyn â hawliau ieithyddol, yn enwedig hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a grwpiau ieithyddol.
-
Bydd yr astudiaeth yn cynnwys astudiaeth o'r Gymraeg fel mater defnyddiwr ac yn ogystal yn ffocysu ar drafod defnydd iaith mewn sfferau trosglwyddo ieithoedd lleiafrifol sef yr aelwyd, y gymuned, y system addysg a’r gweithle.
Cynnwys cwrs
Cynllunio Ieithyddol ar lefel ryngwladol
Shifft ieithyddol a marwolaeth iaith
Cyflwyniad i hanes yr iaith Gymraeg
Y Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus a phreifat Datblygiad statudol yr iaith Gymraeg
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Cynnwys y Ddeddf Oblygiadau sector gyhoeddus Oblygiadau sectorau eraill
Cynlluniau Iaith Gymraeg
Astudiaeth gymharol o'r Gymraeg ag ieithoedd lleiafrifol Ewrop a Gogledd America
Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011
Meini Prawf
ardderchog
Er mwyn llwyddo ar y lefel hon, bydd y myfyriwr/aig yn gallu: cynhyrchu adolygiad trylwyr a beirniadol o'r llenyddiaeth berthnasol; dadansoddi a gwerthuso polisïau; defnyddio cronfeydd data amrywiol yn ddewisol a medrus, trefnu ei amser yn effeithiol ac effeithlon, defnyddio'r we yn feirniadol er mwyn darganfod gwybodaeth werthfawr a pherthnasol, defnyddio sgiliau ymchwil annibynnol yn graff a beirniadol.
trothwy
Er mwyn llwyddo ar y lefel hon, bydd y myfyriwr/aig yn gallu cyflawni'r canlynol yn foddhaol: adolygu'r llenyddiaeth berthnasol, dadansoddi a gwerthuso polisïau, defnyddio cronfeydd data, trefnu ei amser, defnyddio'r we i ddarganfod gwybodaeth, defnyddio sgiliau ymchwil annibynnol
da
Er mwyn llwyddo ar y lefel hon, bydd y myfyriwr/aig yn gallu: cynhyrchu adolygiad trylwyr o'r llenyddiaeth berthnasol; dadansoddi a gwerthuso polisïau; defnyddio cronfeydd data yn fedrus, trefnu ei amser yn effeithiol, defnyddio'r we yn eang i ddarganfod gwybodaeth, defnyddio sgiliau ymchwil annibynnol yn ddeheuig.
Canlyniad dysgu
-
Dadansoddi'n feirniadol ddatblygiad polisïau iaith yn y sector gyhoeddus, breifat, a gwirfoddol.
-
Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau meintiol ac ansoddol mewn dull beirniadol a dadansoddol i drafod sefyllfa'r Gymraeg yn y Gymru gyfoes.
-
Cymhwyso theorïau ynglyn â hawliau unigolion a hawliau grwp i sefyllfaoedd cyfoes.
-
Dadansoddi'n feirniadol wreiddiau cynllunio ieithyddol o fewn cyd-destun rhyngwladol
-
Defnyddio cysyniadau priodol i drafod cynllunio ieithyddol yn y Gymru gyfoes, gan eu dadansoddi'n feirniadol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Assignment 1 | 30.00 | ||
Assignment 2 | 70.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture |
Canlyniad Dysgu 1: Dadansoddi'n feirniadol wreiddiau cynllunio ieithyddol o fewn cyd-destun rhyngwladol Canlyniad Dysgu 2: Defnyddio cysyniadau priodol i drafod cynllunio ieithyddol yn y Gymru gyfoes, gan eu dadansoddi'n feirniadol. Canlyniad Dysgu 3: Dadansoddi'n feirniadol ddatblygiad polisïau iaith yn y sector gyhoeddus, breifat, a gwirfoddol. Canlyniad Dysgu 4: Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau meintiol ac ansoddol mewn dull beirniadol a dadansoddol i drafod sefyllfa'r Gymraeg yn y Gymru gyfoes. Canlyniad Dysgu 5: Cymhwyso theorïau ynglyn â hawliau unigolion a hawliau grwp i sefyllfaoedd cyfoes. |
200 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- L4AJ: MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol year 1 (MA/PCI)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- L4AA: MA Language Policy and Planning year 1 (MA/LAPP)