Modiwl SCY-2003:
Trosedd a Chyfiawnder
Trosedd a Chyfiawnder 2022-23
SCY-2003
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gwenda Jones
Overview
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y cyflwyniad i'r system gyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr a ddarperir ym Mlwyddyn 1 sef SCY1004. Bydd yn atgyfnerthu a chynyddu dealltwriaeth myfyrwyr o wahanol fesurau trosedd a sut mae’r prif asiantaethau troseddol yn gweithredu o dan ofynion pryderon cynyddol ar lefel rhyngwladol. Felly, bydd rôl, cyfrifoldebau a lefelau atebolrwydd y prif asiantaethau cyfiawnder troseddol yn cael eu hadolygu yng nghyd-destun pryderon cyfoes am fathau penodol o droseddau a throseddwyr, megis troseddau ieuenctid, terfysgaeth, seiber a throseddau trefniadol. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar hyrwyddo trafodaeth o'r dadleuon mwyaf blaenllaw mewn cyfiawnder troseddol a system gosb. Wrth wneud hynny, mae'r modiwl yn anelu at ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o ystadegau cyfiawnder troseddol yn ogystal â gwerth dadansoddiad cymharol mewn ymarfer a gweithdrefnau cyfiawnder troseddol.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (40-49%)AseiniadDangos dealltwriaeth sylfaenol o batrymau trosedd ac ystadegau troseddol; darparu cyfrif cydlynol o'r broses cyfiawnder troseddol; deall swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr; disgrifio materion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol; gallu ymdrin â dadansoddiad cymharol ar lefel sylfaenol.Cyflwyniad LlafarDangos dealltwriaeth sylfaenol o batrymau trosedd ac ystadegau troseddol; dangos ymwybyddiaeth o duedd gynhenid y system cyfiawnder troseddol; disgrifio materion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol.
-good -Da (50-69%)AseiniadDangos ymwybyddiaeth dda o batrymau troseddau a chyfyngiadau ystadegau troseddol; darparu eglurhad cywir o'r broses cyfiawnder troseddol gyda rhywfaint o werthusiad o weithrediad un neu fwy o asiantaethau cyfiawnder troseddol; deall a darparu peth dadansoddiad o swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr a'i weithrediad mewn amgylchiadau penodol; gallu ymdrin yn gynhwysfawr a beirniadol â dadansoddiad cymharol. Cyflwyniad LlafarDangos ymwybyddiaeth dda o batrymau troseddau a chyfyngiadau ystadegau troseddol; darparu eglurhad cywir o'r broses cyfiawnder troseddol gyda rhywfaint o werthusiad o weithrediad un neu fwy o asiantaethau cyfiawnder troseddol; dangos ymwybyddiaeth soled o duedd gynhenid y system cyfiawnder troseddol a'i oblygiadau; dadansoddi materion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol.
-excellent -Rhagorol (70-95%)AseiniadDangos dealltwriaeth feirniadol o batrymau trosedd ac ymagwedd soffistigedig tuag at ystadegau troseddol; rhoi cyfrif o'r broses cyfiawnder troseddol sy'n cynnwys gwerthusiad beirniadol sylweddol; dangos dealltwriaeth dda o swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, ac ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o'r systemau hyn; gwerthuso’n feirniadol a chynnig dadansoddiad cymharol.Cyflwyniad LlafarDangos dealltwriaeth feirniadol o batrymau trosedd ac ymagwedd soffistigedig tuag at ystadegau troseddol; rhoi cyfrif o'r broses cyfiawnder troseddol sy'n cynnwys gwerthusiad beirniadol sylweddol; dangos dealltwriaeth dda o swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, ac ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o'r systemau hyn; dangos gwerthfawrogiad beirniadol o oblygiadau rhagfarn gynhenid y system cyfiawnder troseddol; cynnig dadansoddi a gwerthusiad grymus o faterion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth drylwyr o'r ffordd y mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ymateb i newid mewn trosedd, troseddwyr a blaenoriaethau gwleidyddol.
- Dangos y gallu i leoli, dehongli a gwerthuso'n feirniadol ystadegau, llenyddiaeth, a thystiolaeth sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder troseddol a system gosb.
- Dangos y gallu i werthuso'n feirniadol a chymhwyso modelau cyfiawnder troseddol allweddol.
- Darparu tystiolaeth o'r gallu i gymryd rhan mewn dadleuon ar faterion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi sy'n llywio a dylanwadu ar weithdrefnau ac ymarfer cyfiawnder troseddol.
- Datblygu dealltwriaeth fanwl o bwerau, cyfrifoldebau a strwythurau atebolrwydd y prif asiantaethau cyfiawnder troseddol.
- Datblygu gwerthfawrogiad o werth dadansoddiad cymharol o gyfiawnder troseddol a'r system gosb.
- Gallu dadansoddi'n feirniadol sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn dangos tuedd yn erbyn troseddau, troseddwyr a grwpiau cymdeithasol penodol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad
Weighting
50%
Due date
26/04/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Llafar
Weighting
50%
Due date
12/03/2024