Modiwl VPC-2207:
Astudiaeth Annibynnol
Astudiaeth Annibynnol 2022-23
VPC-2207
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Mae’r modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar bwnc o'u dewis eu hunain. Gall y pwnc fod yn rhyngddisgyblaethol ei natur a bydd yn gysylltiedig ag un o'r disgyblaethau a gynrychiolir yn y radd, neu'r ddwy ohonynt. Bydd yr ymchwil a wneir wedi'i seilio ar ffynonellau eilaidd a bydd yn dangos ymwybyddiaeth o wahanol ddulliau gweithredu methodolegol a'r gallu i leoli, dethol a chyfuno gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
Assessment Strategy
-threshold -(D- i D+) Myfyrwyr yn dangos lefel drothwy o wybodaeth a dealltwriaeth o'r pwnc, ond mae eu rhagarweiniad/crynodeb yn wael a defnydd a dealltwriaeth gyfyngedig iawn o ffynonellau damcaniaethol neu syniadau academaidd a moeseg. Casgliad gwael drwodd a thro sy'n cael effaith ar gynnwys a chydlynedd y cyflwyniad llafar.
-good -(C- i C+) Mae myfyrwyr da yn dangos gafael fedrus ar bwnc y traethawd hir a materion cysylltiedig. Ceir ymgais resymol i ddadansoddi mater y pwnc a myfyrio arno. Dangos dealltwriaeth o faterion moesegol a nifer fechan o ddamcaniaethau. Yn y gwaith ceir cipolwg ar arsylwadau treiddgar ac adfyfyriol a gwneir ymgais dda i gysylltu syniadau academaidd â sefyllfaoedd gweithle ac adlewyrchir hyn yng nghynnwys y cyflwyniad llafar. Mae'r gwaith drwodd a thro'n dangos bod sgôp ar gyfer mwy o ddadansoddi a dealltwriaeth.(B- i B+) Mae myfyrwyr da iawn yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fedrus o fater y pwnc. Mae'r gwaith yn ddadansoddol mewn nifer o feysydd ac yn dangos dealltwriaeth feirniadol o ddamcaniaethau a syniadau academaidd. Mae'r gwaith drwodd a thro'n dreiddgar ac yn dangos peth gwreiddioldeb a gwelir hyn yn ansawdd a chyflwyniad y gwaith llafar.
-excellent -(A- ac uwch) Bydd myfyrwyr rhagorol yn dangos gafael feirniadol ar y pwnc. Mae'r gwaith wedi ei gyflawni'n fedrus gan ddangos lefelau uchel o sgiliau dadansoddol ac adfyfyriol a gwybodaeth sylweddol o ystod eang o syniadau academaidd a chyfuno theori ac ymarfer. Mae'r gwaith drwodd a thro'n dangos meddwl creadigol, dawn a gwreiddioldeb a welir hefyd yn amlwg iawn yn y cyflwyniad llafar.
Learning Outcomes
- Canfod a dewis gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
- Creu cwestiwn ymchwil a datblygu methodoleg i geisio datrys y cwestiwn hwnnw.
- Cwblhau darn o waith ysgrifenedig estynedig.
- Cyfosod gwybodaeth o wahanol ffynonellau.
- Datblygu dadl academaidd estynedig yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 5,000 o eiriau yn astudiaeth annibynnol arbenigol.
Weighting
100%