Modiwl VPC-2402:
Yr Holocost: Ymatebion Crefydd
Yr Holocost: Ymatebion Crefydd 2023-24
VPC-2402
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Pam digwyddodd yr Holocost? A yw'n bosibl pennu bai am yr erchyllterau a gyflawnwyd? Sut gallwn ni fel cymdeithas fodoli gyda digwyddiad o'r fath nodweddu’r 20fed ganrif a moderniaeth yn y Gorllewin? Nod y modiwl hwn yw mynd i’r afael yn feirniadol â sut mae cymdeithas ôl-1945 wedi ymateb i erchyllterau’r Holocost, mewn termau crefyddol a thrafodaethau athronyddol. Bydd y modiwl yn archwilio amrywiaeth o ymatebion i ddeall sut mae cymdeithas fodern wedi mynd i’r afael â’r Holocost, ac, yn wir, sut mae’n parhau i wneud hynny.
Bydd y modiwl yn archwilio amrywiaeth eang o ymatebion crefyddol ac athronyddol i'r Holocost fel digwyddiad ac fel erchyllter. Ymhlith yr ymatebion y byddwn yn eu hystyried, mae: - Ymatebion Iddewig i'r Shoah: pam y caniataodd Duw i filiynau ddioddef? - Ymatebion Cristnogol i’r Holocost: a oes modd ystyried yr Holocost yng nghyd-destun cariad Cristnogol o gwbl? - Sut mae cymunedau sipsiwn diweddar wedi mynd i'r afael â'r Porajmos? - Effaith y Triongl Pinc: ymatebion LHDTC+ i'r Holocost. - Yr Erledigaeth Gudd?: dioddefaint pobl 'anabl' yn yr Holocost. - Ymatebion creadigol i'r Holocost: o Schindler’s List i X-Men: Magneto’s Testament - lle byddwn yn ystyried ymatebion ffilmiau, llenyddiaeth a chelf i'r Holocost. - Gwadu'r Holocost: y farn mai ffuglen yn llwyr yw'r Holocost.
Assessment Strategy
Trothwy D / 40%> Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o gymhwysedd fel a ganlyn: • Yn gywir ar y cyfan ond gyda bylchau a gwallau. • Gwneir honiadau heb dystiolaeth neu resymeg ategol glir. • Yn meddu ar strwythur ond yn brin o eglurder ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a thybiaethau. • Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddefnyddiau.
Da C- i C+ Mae'r gwaith a gyflwynir yn hyfedr drwyddo draw ac weithiau'n cael ei wahaniaethu gan arddull, ymagwedd a dewis uwch o ddeunyddiau ategol. Mae'n dangos: • Strwythur da a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn rhannau o leiaf yn tynnu ar ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudiaeth annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. • Mae'r honiadau'n cael eu hategu'n bennaf gan dystiolaeth a rhesymu cadarn. • Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
Daiawn -B (50%>) Mae'r gwaith a gyflwynir yn gymwys drwyddo draw ac yn cael ei wahaniaethu gan arddull, ymagwedd a dewis o ddeunyddiau ategol uwchraddol. Mae'n dangos: • Strwythur da iawn a dadleuon wedi'u datblygu'n rhesymegol. • Yn tynnu ar ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudiaeth annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth a rhesymu cadarn. • Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
Ardderchog -A (70%>) Mae’r gwaith a gyflwynir o ansawdd rhagorol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol: • Meddu ar wreiddioldeb y mynegiant gyda meddwl y myfyriwr ei hun yn amlwg. • Darparu tystiolaeth glir o astudiaeth annibynnol helaeth a pherthnasol. • Mae dadleuon yn cael eu gosod yn eglur ac yn rhoi cyfnodau ystyried olynol i'r darllenydd ddod i gasgliadau.
Learning Outcomes
- Arddangos y sgiliau sydd eu hangen i ddeall esblygiad rhai syniadau a sut y cawsant eu derbyn mewn moderniaeth.
- Bydd myfyrwyr yn datblygu gallu i ymgysylltu'n feirniadol ac yn greadigol â rhai dehongliadau athronyddol a chrefyddol o'r Holocost.
- Cymhwyso sgiliau dehongli beirniadol i wneud darlleniadau dadansoddol o destunau penodol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy'n gysylltiedig â thrafodaeth grefyddol, ymgysylltiad athronyddol, a sylwebaeth gymdeithasol.
- Dangos gallu i ymgysylltu â'r syniadau amrywiol a thynnu cymariaethau rhyngddynt pan fo'n briodol, yn ogystal â gwerthfawrogi'r gwahaniaethau helaeth sy'n gyffredin rhyngddynt.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Rhoddir dewis o gwestiynau i fyfyrwyr a disgwylir iddynt ddewis un i roi cyflwyniad unigol 10 munud.
Weighting
40%
Due date
24/11/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Rhoddir detholiad o gwestiynau i fyfyrwyr ddewis ohonynt a disgwylir iddynt ysgrifennu traethawd 2,500 o eiriau.
Weighting
60%
Due date
24/11/2023