Modiwl VPC-3404:
Iddewiaeth yn y Byd Modern
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Gareth Evans Jones
Amcanion cyffredinol
Amcan y modiwl hwn yw darparu myfyrwyr â gwybodaeth eang a thrylwyr o’r grefydd Iddewig, ei datblygiad, a’i hymarfer yn y byd modern. Bydd y modiwl yn dechrau ag archwiliad o’r Beibl Hebraeg drwy werthuso cysyniadau canolog y ffydd Iddewig, gan gynnwys y cyfamod a’r mitzvot. Awn ymlaen i drafod rhai digwyddiadau hanesyddol arwyddocaol yn natblygiad y ffydd Iddewig, gan gynnwys chwalu’r Ail Deml ac esblygiad Iddewiaeth y Gwasgariad. Yn y cyswllt hwn, ystyrir detholiad o feddylwyr Iddewig pwysig er mwyn gwerthfawrogi’r modd y bu iddynt ddylanwadu ar natur ac ymarfer Iddewiaeth heddiw, gan gynnwys Moses Maimonides a Moses Mendelssohn. Wedi gwneud hynny, bydd y modiwl yn trafod y modd yr ymarferir Iddewiaeth mewn cymdeithas gyfoes drwy ganolbwyntio ar agweddau penodol, sef defodau tyfiant, deddfau bwyd, gwyliau a defodau crefyddol. Bydd y modiwl hefyd yn astudio’r enwadau amrywiol o fewn Iddewiaeth a’r modd y maent yn ymateb i bynciau penodol, gan gynnwys datblygiad ffeministiaeth Iddewig. Pwrpas y modiwl, felly, yw darparu trosolwg eang o’r hanes a’r credoau sydd wedi siapio Iddewiaeth fodern.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn archwilio’r meysydd canlynol: • Cefndir hanesyddol Iddewiaeth. • Trosolwg o’r Tanakh (Y Beibl Hebraeg) ac elfennau canolog y grefydd Iddewig, gan gynnwys y cyfamod, y mitzvot, a chysyniad ‘cenedl etholedig Duw’. • Effaith chwalu’r Ail Deml ar ddatblygiad Iddewiaeth y Gwasgariad. • Meddylwyr Iddewig dylanwadol: Moses Maimonides a Moses Mendelssohn. • Ymarfer Iddewiaeth gyfoes: defodau tyfiant, deddfau bwyd, gwyliau a defodau crefyddol. • O Dra-Uniongred i Ryddfrydol: yr enwadau amrywiol o fewn Iddewiaeth fodern. • Iddewiaeth fodern a materion penodol: ffeministiaeth ac amgylcheddaeth.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
C- i C+
Da C- i C+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
ardderchog
Ardderchog A- i A*
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
da
Da iawn B- i B+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Canlyniad dysgu
-
• Trafod a dangos dealltwriaeth o ffynonellau clasurol Iddewiaeth a’r modd y’u mynegwyd yn ddiweddarach gan ddehonglwyr y gwahanol draddodiadau.
-
• Dangos dealltwriaeth gadarn a soffistigedig o gymhlethdod amlweddog Iddewiaeth, er enghraifft, ym mherthynas credoau crefyddol, testunau, arferion a sefydliadau, â normau, estheteg, a strwythurau cymdeithasol a diwylliannol ehangach.
-
• Cymhwyso syniadau a mewnwelediad athronyddol, themâu a dadleuon gan wahanol ysgolion Iddewig pan yn briodol i gyd-destunau cymdeithasol a disgyblaethol ehangach, gan gynnwys y gwyddorau meddygol a biolegol.
-
• Dangos dealltwriaeth am draddodiadaul athronyddol ac ysbrydol Iddewig yn eu ffurfiau amrywiol a chanolog, a gallu i ymwneud yn ddeallusol â’r traddodiadau hynny.
-
Cyflwyno gwybodaeth am bwnc perthnasol i Iddewiaeth ar lafar mewn modd eglur, cydlynol a diddorol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Geirfa termau allweddol | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymateb i 10 term Iddewig canolog a'u diffinio'n eglur drwy ddefnyddio ffynonellau cynradd (ysgrythurol) ac eilaidd (ysgolheigion ayyb). |
30.00 |
LLAFAR | Cyflwyniad Llafar | Bydd disgwyl i fyfyrwyr gynnig cyflwyniad llafar am 10 munud am bwnc sy'n gysylltiedig ag Iddewiaeth yn y Byd Modern. Rhoddir rhestr o bynciau posibl i fyfyrwyr a gallent ddewis un. |
30.00 |
TRAETHAWD | Traethawd | Bydd disgwyl i fyfyrwyr lunio traethawd 2,500 gair am un cwestiwn o blith rhestr a ddarperir iddynt. |
40.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Bydd disgwyl i blant fynychu 33 awr o ddarlithoedd. |
33 |
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â lefel o astudiaeth annibynnol i gyd-fynd â'r darlithoedd. Rhoddir rhestr ddarllen ddefnyddiol i'r myfyrwyr. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 3 (LLB/LPR)