Modiwl WXC-1011:
Cyfansoddi Blwyddyn 1
Cyfansoddi Blwyddyn 1 2023-24
WXC-1011
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r myfyriwr i rai o’r technegau cyfansoddi a ddefnyddiwyd yn yr 20fed ganrif, gan ddangos sut mae harmoni, rhythm, adeiledd, offeryniaeth a thraw wedi datblygu. Rhoddir y cyfryngau sylfaenol i’r myfyrwyr ar gyfer cyfansoddi. Bydd y cwrs hefyd yn ystyried offerynnau penodol a’u nodweddion arbennig, yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer y llais. Yna anogir y myfyrwyr i roi cynnig ar y technegau yn eu cyfansoddiadau hwy eu hunain.
Assessment Strategy
-threshold -(D) Cyfansoddi, gan ddangos rhywfaint o ddefnydd ar elfennau sylfaenol yr 20fed ganrif, yn harmonig, yn rhythmig ac yn adeileddol, ynghyd â dealltwriaeth o offerynnau a gosodiad. -good -(B) Cyfansoddi rhywbeth gan ddangos dealltwriaeth glir o elfennau harmonig, rhythmig ac adeileddol yr 20fed ganrif, a’r gallu i ysgrifennu’n ymarferol ar gyfer yr offerynnau a ddefnyddir, a gosod sgorau yn gywir. -excellent -(A) Cyfansoddi gan ddefnyddio defnydd dychmygus ac arloesol ar elfennau harmonig, rhythmig ac adeileddol, a’r gallu i ysgrifennu, yn ymarferol ac yn idiomatig, ar gyfer yr offerynnau, gan osod sgorau yn ôl egwyddorion cyhoeddi.
Learning Outcomes
- Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn adnabod a dirnad darnau penodol o repertoire cerddorol yr 20fed ganrif gan fedru gwahaniaethu rhwng gwahanol idiomau ac arddulliau o fewn y cyfnod hwn.
- Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru cyfansoddi mewn arddull bersonol, wedi ei seilio ar fodelau’r ugeinfed a’r unfed ganrif ar hugain;
- Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru datblygu syniadau a deunydd cerddorol yn hyderus i greu cyfansoddiadau sy'n arddangos elfennau dychmygus a chysondeb mewn arddull a ffurf.
- Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru ymdrin gyda chysyniadau sylfaenol ynglyn ag offeryniaeth/cerddorfaeth, trwy ysgrifennu’n idiomatig ar gyfer offerynnau/lleisiau penodol;
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Prif Aseiniad
Weighting
50%
Due date
09/01/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Gwaith Cwrs 2
Weighting
25%
Due date
01/12/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Coursework 1
Weighting
25%
Due date
27/10/2022