Modiwl WXC-2233:
Cyfansoddi Blwyddyn 2
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Guto Puw
Amcanion cyffredinol
- Astudio technegau cyfansoddi amrywiaeth o gyfnodau cerddorol, a defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i gyfansoddi gweithiau cerdd gwreiddiol;
- Ystyried materion aesthetig, athronyddol a cherddoregol sy'n berthnasol i gyfansoddi, ac edrych ar oblygiadau'r rhain trwy gyfrwng y weithred o gyfansoddi;
- Datblygu medrusrwydd mewn amrywiaeth o dechnegau trwy astudio'r technegau hyn yn fanwl;
- Annog arbrofi eofn ac arloesi creadigol wrth gyfansoddi;
- Cynnig profiad mewn cyfansoddi mewn arddulliau anghyweiraidd, (cyn-gyweiraidd, ôl-gyweiraidd, digywair), a defnyddio dulliau newydd o ymdrin â'r ffurfiau;
- Cyfrannu at ddatblygiad personol cyfansoddwyr trwy ddatblygu eu creadigrwydd fel unigolion.
Cynnwys cwrs
Adeilada’r modiwl hwn ar astudiaethau Cyfansoddi Blwyddyn 1, ynghyd â chyflwyno syniadau a thechnegau newydd ar yr un pryd. Bydd pwyslais cyson ar arbrofi mentrus a newydd-deb creadigol, gan weithio gydag arddulliau anghyweiraidd (cyn-donyddol, ôl-donyddol ac anhonyddol), ynghyd ac ymdriniaethau newydd o ffurf. Ceir gwaith damcaniaethol (gwrando, dadansoddi a thrafod pynciau) ynghyd a gwaith ymarferol (gweithio drwy dechnegau, cyflwyno enghreifftiau, datrys problemau), gan ganolbwyntio ar dechnegau ac elfennau penodol - rhai yn newydd, a rhai yn gyfarwydd ers modiwl Cyfansoddi Lefel 1. Nid yw’r modiwl hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno cyfansoddi mewn arddulliau hanesyddol neu pastiche. Yn ogystal, bydd y modiwl hwn yn gosod y seiliau ar gyfer ymgymeryd a Phrosiect Cyfansoddi yn ystod y 3ydd flwyddyn.
Meini Prawf
trothwy
Mae'r cyfansoddiad yn dangos peth dychymyg creadigol cyfyngedig, gyda rheolaeth gyfyngedig ar y deunyddiau cerddorol, ac ychydig o ddealltwriaeth o bosibiliadau adnoddau (cerddorol a lleisiol). Ychydig o dystiolaeth sydd o ymdriniaeth sy'n gyffredinol ddeallusol.
da
Mae'r cyfansoddiad yn dangos lefel dda o ddychymyg creadigol, a rheoli ac ymhelaethu'n dda ar ddeunyddiau cerddorol, hyn yn seiliedig ar allu technegol wrth ddefnyddio adnoddau (offerynnol a lleisiol). Ceir tystiolaeth hefyd o dreiddgarwch deallusol.
ardderchog
Mae'r cyfansoddiad yn dangos lefel uchel o ddychymyg creadigol, ac arwyddion o lais cyfansoddi unigryw yn dechrau dod i'r amlwg, rheoli ac ymhelaethu'n fedrus ar ddeunyddiau cerddorol, a meistrolaeth dechnegol ar adnoddau (offerynnol a lleisiol). Ceir tystiolaeth hefyd o lefel uchel o allu wrth feddwl yn gysyniadol, dealltwriaeth dreiddgar o faterion perthnasol, a dulliau a chanfyddiadau gwreiddiol.
Canlyniad dysgu
-
Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru gwerthuso rhagoriaethau cyfansoddiadau penodol a gyfansoddwyd mewn arddull gyfoes, gan gymhwyso y rhain o fewn ei gwaith eu hunain;
-
Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru arddangos peth gwreiddioldeb gan ddechrau symud tuag at annibyniaeth creadigol;
-
Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru defnyddio amryw o dechnegau cyfansoddi perthnasol;
-
Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn hyderus yn gweithio gyda dulliau a deunydd cyfansoddi;
-
Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru ysgrifennu cerddoriaeth sy’n: a) llwyddo i greu cydbwysedd o ran undod ac amrywiaeth; b) arddangos cynildeb; c) gwneud defnydd o dechnegau a astudiwyd ar y cwrs;
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Written assignment, including essay | Prif Aseiniad 1 | Darn wedi ei seilio ar gord penodol sydd yn gwneud defnydd o strwythur (e.e. Golden Section a'r gyfres Fibonacci) |
35.00 |
GWAITH CWRS | Gwaith Cwrs 1 | 15.00 | |
GWAITH CWRS | Gwaith Cwrs 2 | Cyfansoddwch gyfres byr o DRI darn ar gyfer UN AI allweddell (e.e. piano, harpsicord, organ), NEU telyn, NEU offeryn taro gyda thraw (e.e. feibroffon neu marimba). Fe ddylai’r gyfres o ddarnau bara am gyfanswm o oddeutu dau funud ac fe ddylai arddangos un neu fwy o’r technegau a astudiwyd yn y dosbarth mewn perthynas a cyfres Eirenicon Howard Skempton. |
15.00 |
Written assignment, including essay | Prif aseiniad 2 | Dewis o un ai darn ar gyfer pedwarawd llinynnol neu osodiad o eiriau cyfoes. |
35.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 167 | |
Lecture | 11 darlith wythnosol o oddeutu 2 awr yr un. Bydd rhai dosbarthiadau ynghlwm â Gwyl Gerdd Bangor. |
22 |
Seminar | 1 seminar wythnosol o oddeutu 1 awr yr un. |
11 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-2233.htmlRhestr ddarllen
Dim rhestr ddarllen ar gyfer y modiwl yma. Darperir restr o recordiadau a sgorau ar ddechrau'r cwrs.
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 2 (BA/HCAC)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)