Modiwl WXC-2309:
Cerdd mewn Iechyd a Lles
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credydau neu 10.000 Credyd ECTS
Semester2
Trefnydd: Dr Gwawr Ifan
Amcanion cyffredinol
• datblygu dealltwriaeth gadarn am y cyflyrau meddygol cyffredinol sydd yn cael eu trin mewn cyd-destun therapiwtig; • Datblygu deatllwriaeth gadarn am y sgiliau penodol sydd angen i gerddorion neu therapyddion cerdd eu harddangos wrth weithio mewn lleoliadau gofal iechyd. • Datblygu’r gallu i fynegi barn am effeithiolrwydd cerddoriaeth i hyrwyddo iechyd a lles mewn amrywiol feysydd. • Darllen a chasglu gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau yn ymwneud â cherddoriaeth mewn iechyd a lles mewn un maes penodol.
Cynnwys cwrs
Yn y modiwl hwn, bydd cyfle i ystyried yr effaith y gall cerddoriaeth ei gael mewn cyd-destun seicolegol, emosiynol a chymdeithasol, a’r cysylltiad rhwng cerddoriaeth, iechyd a lles o amrywiol safbwyntiau hanesyddol a diwylliannol. Byddwch yn dysgu am rai o’r prif ffyrdd y defnyddir cerddoriaeth er mwyn hybu lles. Byddwch hefyd yn ystyried a thrafod sut y defnyddir cerddoriaeth mewn amrywiol gyd-destunau therapiwtig, ac effeithiolrwydd cerddoriaeth i drin cyflyrau iechyd meddwl a ffisegol.
Meini Prawf
rhagorol
Dosbarth Cyntaf: A- i A (70%-83%) Y nodwedd allweddol yma yw tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol gwirioneddol mewn trafodaeth sylweddol. Bydd gwaith ar y lefel hon yn debygol o ddangos bod yr ymgeisydd wedi cymryd yr awenau i wneud gwaith ymchwil y tu hwnt i’r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau a ddefnyddiwyd yn feirniadol; trafodaeth sylweddol a chlir; mynegiant caboledig mewn gwaith ysgrifenedig a llafar; gallu i gywain deunydd o wahanol ffynonellau at ei gilydd; sgiliau arsylwi a dadansoddi o’r safon uchaf; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i egluro testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i ffiniau culion y testun dan sylw; y gallu i arwain trafodaethau llafar; y gallu i adnabod problemau neu groesddweud yn y testun a’u hwynebu’n rymus.
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Mae gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy’n cyrraedd safonau proffesiynol, neu sy’n agos at hynny. Bydd y gwaith hwn yn dangos, mewn modd cyson, yr holl nodweddion a restrwyd yng nghategori A-/A (70%-83%), ac o ansawdd mor uchel fel ei fod naill ai’n deilwng o gael ei gyhoeddi neu ddarlledu yn union fel ag y mae, neu gyda diwygiadau o ran ei gyflwyniad.
C- i C+
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Y prif gryfder sy’n gwarantu marc yn y categori hwn yw casglu corff rhesymol o ddeunydd perthnasol o ystod weddol eang o ddarllen neu ffurfiau eraill ar adalw gwybodaeth, sydd wedi’i gyflwyno mewn trefn eglur a’i fynegi’n ddealladwy. Nodweddion sy’n cyfyngu’r marc i’r lefel hon yw: dadleuon aneglur, neu ddadleuon sy’n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadl; tystiolaeth gyfyngedig o ddealltwriaeth neu wybodaeth eang o’r testun; ymrwymiad cyfyngedig i drafod ac aildrafod syniadau mewn trafodaethau llafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl yn ddwys, mewn cyferbyniad â diwydrwydd syml.
dda
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Y nodwedd allweddol yma yw’r gallu i lunio dadl glir gyda thystiolaeth briodol i’w hategu. Bydd y gwaith, felly, yn debygol o ddangos y gallu i ddeall y drafodaeth ar waith o gelfyddyd a chymhwyso’r wybodaeth honno at wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o’r testun yn ei gyfanrwydd, a gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd mwy penodol; sgiliau medrus gyda llyfryddiaethau a throednodiadau; cyfathrebu syniadau a dadleuon yn effeithiol; gallu gweld problemau a gwrthddweud mewn darllen ffynonellol; cyfraniad meddylgar i drafodaethau llafar; sgiliau mewn arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o’r un nodweddion ag a geir mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant i’w gweld ar lefel lai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn eithriadol o ran un o nodweddion Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.
trothwy
Methu: E ac is (0%-39%) Methir yn awtomatig ar lefel anrhydedd oherwydd: llên-ladrad; diffyg llyfryddiaeth (ac eithrio mewn achosion prin lle nad oes angen llyfryddiaeth), neu ddarparu llyfryddiaeth sy’n amlwg yn un ffug; diffyg troednodiadau/ nodiadau ar y diwedd (ac eithrio mewn achosion prin lle nad oes angen troednodiadau/nodiadau ar y diwedd); peidio â chyflawni deilliannau dysgu penodol y modiwl. Fel rheol, mae methu’n ganlyniad i ddiffyg astudio, diffyg gwybodaeth a/neu ddiffyg dealltwriaeth. Gall hefyd ddeillio o ddibynnu’n oddefol ac yn anghywir ar eich ffynonellau; anwybyddu cyfarwyddiadau a roddwyd mewn darlithoedd a thaflenni; trafod gwan a dryslyd sy’n dangos camddealltwriaeth neu anwybodaeth ddifrifol; dibynnu ar wybodaeth a gafwyd o’r blaen (er enghraifft ar gyfer Lefel A); ysgrifennu gwael iawn; mynegiant llafar annigonol; peidio â rhoi sylw i’r testun; mynegi barn neu safbwyntiau nad ydynt wedi’u harchwilio.
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Y cyrhaeddiad allweddol yw dangos gafael sylfaenol ar y testun dan sylw a’r math o ddeunydd a ddefnyddir. Fodd bynnag, cyfyngir y marc i’r lefel hon gan ffactorau megis: ailadrodd gwybodaeth yn foel, heb ddangos gwir ddealltwriaeth; dryswch wrth gyflwyno dadl sy’n dangos diffyg dealltwriaeth briodol o’r deunydd; methu â gwahaniaethu rhwng y perthnasol a’r amherthnasol; methu â deall syniadau’n iawn; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau hynod ddiffygiol o ran llyfryddiaethau neu droednodiadau; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyno blêr.
Canlyniad dysgu
-
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu arddangos gwybodaeth gadarn am y cyflyrau meddygol cyffredinol sy’n cael eu trin gan gerddoriaeth mewn cyd-destun therapiwtig.
-
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu cymhwyso’u sgiliau arsywli er mwyn gwerthuso digwyddiad cerddorol mewn lleoliad gofal iechyd yn y gymuned.
-
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno a thrafod gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau yn ymwneud â’r defnydd o gerddoriaeth i hybu iechyd a lles mewn un maes penodol.
-
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu mynegi barn am effeithiolrwydd cerddoriaeth fel arf i hybu iechyd a lles.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
REPORT | Adroddiad 1000 eiriau | 25.00 | |
AURAL | Cyflwyniad llafar o 10 munud | 25.00 | |
ESSAY | Traethawd 2000 o eiriau | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 11 x darlith wythnosol o ddwy awr |
22 |
Seminar | 11 x seminar wythnos o un awr. |
11 |
Private study | 167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Rhestr ddarllen Talis
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-2309.htmlRhestr ddarllen
Gweler y rhestr ddarllen ar gyfer WXC 2187.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- WPQ1: BA Creative Studies (with International Experience) year 2 (BA/CSIE)
- WPQ0: BA Creative Studies year 2 (BA/CST)
- WPQB: BA Creative Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/CST1)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 2 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 2 (BA/ELM)
- 32N7: BA English Literature & Music with International Experience year 2 (BA/ELMIE)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 2 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 2 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 2 (BA/HMUIE)
- WW39: BA Music and Creative Writing with International Experience year 2 (BA/MCWIE)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 2 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 2 (BA/MHIE)
- W303: BA Music (with International Experience) year 2 (BA/MIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 2 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 2 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 2 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 2 (BA/MUIT)
- W300: BA Music year 2 (BA/MUS)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 2 (BA/MUSCW)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 2 (BA/MUSF)
- WW36: BA Music and Film Studies year 2 (BA/MUSFS)
- WR34: BA Music/Spanish year 2 (BA/MUSP)
- W3W4: BA Music with Theatre & Performance year 2 (BA/MUSTP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- VW2H: BA Welsh History and Music year 2 (BA/WHMU)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 2 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 2 (BMUS/MUS)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 2 (BMUS/MUSF)
- H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 2 (BSC/EEM)