Modiwl WXC-3298:
Perfformio Unawdol Blwyddyn 3
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Iwan Llewelyn Jones
Amcanion cyffredinol
- Adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd ym modiwl Perfformio Unigol Blwyddyn 2.
- Ehangu a mireinio techneg offerynnol neu lleisiol y myfyriwr/wraig.
- Rhoi cyfle i'r myfyriwr/wraig ymdrin â materion megis arddull, cyd-destun, a thechnegau perfformio hanesyddol sy'n berthnasol i'w (h)offeryn neu ei (l)lais.
Cynnwys cwrs
Bydd y rhai sy’n dilyn y modiwl yn paratoi a pherfformio datganiad cyhoeddus hyd at 40 munud, yn cynnwys repertoire unawdol mewn arddulliau amrywiol o gyfnodau gwahanol. Caiff myfyrwyr hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol ochr yn ochr â gweithdai, lle byddent yn trin a thrafod elfennau estynedig o berfformio fel dewisiadau repertoire, strategaethau ymarfer, arddulliau perfformio (yn cynnwys technegau perfformio hanesyddol), sgiliau cyflwyno a'r ddarpariaeth o nodiadau rhaglen.
Meini Prawf
ardderchog
Mae'r perfformiad yn ysgogol ac argyhoeddiadol, gan ddangos lefelau uwch o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg, ynghyd a thystiolaeth o sylw gofalus i ofynion nodiannol ac arddull berthnasol. Mae'r cyflwyniad unigol/nodiadau rhaglen yn adlewyrchu dealltwriaeth drwyadl o'r pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth ehangach, meddwl dyfnach, gwreiddioldeb a sgiliau ysgrifenedig rhagorol.
trothwy
Mae'r perfformiad yn adlewyrchu cerddoroldeb a thechneg sylfaenol; rhoddir sylw cyfyngedig i ofynion nodiannol ac arddulliadol, a gwerthoedd deongliadol. Mae'r cyflwyniad/nodiadau rhaglen yn dangos gwybodaeth elfennol o'r pwnc; prin yw'r gallu i feddwl yn gysyniadol, ynghyd â ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r cyd-destun. Serch hyn, gwelir peth tystiolaeth o ddull deallusol cyffredinol o ymdrin a'r testun gyda mynegiant gweddol.
da
Mae'r perfformiad yn berswadiol, gan ddangos lefelau boddhaol o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg. Rhoddir sylw priodol i ofynion nodiannol ac arddull perthnasol. Mae'r cyflwyniad unigol/nodiadau rhaglen yn adlewyrchu dealltwriaeth gadarn o'r pwnc, meddwl cysyniadol da, ymwybyddiaeth o'r prif faterion, gyda thystiolaeth o grafter deallusol a mynegiant da.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr allu cyfiawnhau eu dewisiadau cerddorol o repertoire, ymarferion perfformio, a datrys problemau drwy gyfrwng cyflwyniad unigol a nodiadau rhaglen.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr allu llunio rhaglen datganiad sy'n gytbwys ac yn adlewyrchu cysyniad neu thema gerddoregol mewn ffordd synhwyrol.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu mynd i'r afael ag ymarferion perfformio sy'n berthnasol i'w repertoire.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr allu dalu sylw cyson a thrylwyr i gyffyrddiadau, cwmpawd deinamig a arwyddion mynegiadol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Written assignment, including essay | Nodiadau rhaglen | Nodiadau rhaglen (1,000 o eiriau) i gydfynd â'r Perfformiad Cyhoeddus. Mae hyn yn cyfrif am 10% o gyfanswm marciau'r modiwl ac yn rhoi prawf ar Ddeilliannau Dysgu 3. |
10.00 |
ARDDANGOSIAD/YMARFER | Perfformiad Cyhoeddus | Datganiad cyhoeddus unawdol (llais neu offeryn), 35-40 munud. Mae hyn yn cyfrif am 80% o gyfanswm marciau'r modiwl ac yn rhoi prawf ar Ddeilliannau Dysgu 1-2. Fe'i cynhelir yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2 (Mai 2022). |
80.00 |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad ar Lafar | Cyflwyniad ar lafar yn trafod rhaglen y Perfformiad Cyhoeddus. Mae hyn yn cyfrif am 10% o gyfanswm marciau'r modiwl ac yn rhoi prawf ar Ddeilliannau Dysgu 3. Fe'i cynhelir yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1 (Ionawr 2022) . |
10.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Gwersi unigol am gyfanswm o 24 awr. Lle bo'n addas, 2 awr o ymarfer gyda chyfeilydd piano proffesiynol. |
24 |
Practical classes and workshops | Gweithdai perfformio wythnosol (2 awr yr un) yn Semesterau 1 a 2. |
44 |
Private study | Cymryd yr adborth o'r gwersi offerynol/lleisiol a'r gweithdai a cymhwyso hyn i ymarfer dyddiol. Ymchwil cerddoregol/pedagogol er mwyn darparu'r cyflwyniad unigol a'r nodiadau rhaglen. |
332 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Rhagofynion a Chydofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 3 (BA/ACC)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 3 (BA/HCAC)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)