Modiwl WXC-3311:
Lleoliad Cymunedol Celfyddydol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i:
- Archwilio amrywiol agweddau o reoli a gweinyddu'r celfyddydau;
- Gael syniad clir o'r amrywiaeth o sgiliau personol a phroffesiynol sydd eu hangen mewn gwaith gweinyddu celfyddydol;
- Ddatblygu gwybodaeth am y sylfaen theoretig sydd wrth wraidd eu dull o ymdrin â hyrwyddo a rheoli'r celfyddydau;
- Ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gweinyddu'r celfyddydau;
- I wneud astudiaeth benodol o agwedd nodedig o weithgaredd cymunedol, fyddai o bosibl yn cynnwys dadansoddi adnoddau cyfredol a chreu argymhellion ar gyfer gwelliannau;
- Creu adroddiad manwl yn dadansoddi'r prosiect, fydd yn adnabod y cyflawniadau a'r heriau a wynebwyd.
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl hwn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr i gael rhywfaint o wybodaeth weithredol - yn theoretig ac yn ymarferol - ym maes gweinyddiaeth y celfyddydau. Yn ystod y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn ymgymryd â lleoliad annibynnol estynedig o o leiaf 40 awr yn y gymuned, gan anelu at gyflawni gôl benodol. Gall hwn fod yn ardal Bangor neu leoliad arall: mae lleoliadau posibl yn cynnwys canolfannau celf neu leoliadau eraill (e.e. Gwyliau, canolfannau cerdd, cerddorfa). Bydd briff penodol i’r prosiect, gyda tharged(au) clir a chyraeddadwy: gallai olygu gwneud ymchwil o’r farchnad ar ran canolfan gelfyddydol, gyda’r bwriad o greu cyfres o argymhellion ar bolisi, neu gallai olygu trefnu cyfres o weithdai addysgiadol ar thema benodol ar gyfer ysgol neu ysgolion lleol. Gall myfyrwyr rannu'r un lleoliad (e.e. Gwyl Gerdd Bangor) os ydy eu cyfrifoldebau penodol wedi eu nodi yn amlwg yn eu briff personol hwy.
Meini Prawf
da
Da (C– i B+): Gwaith sy'n dangos gafael gadarn ar y pwnc, meddwl cysyniadol da, tystiolaeth o graffter deallusol, ac wedi ei fynegi'n glir a diddorol.
ardderchog
Ardderchog (A– i A*): Gwaith sy'n dangos gafael drwyadl ar y pwnc, gyda thystiolaeth o astudio pellach a meddwl cysyniadol dyfnach, gyda pheth gwreiddioldeb mewn dull ymdrin, ac wedi ei fynegi'n drefnus ac argyhoeddiadol.
trothwy
Trothwy (D– i D+): Gwaith sy'n dangos gwybodaeth gyfyngedig o'r pwnc, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ychydig dystiolaeth o ymdriniaeth ddeallusol wirioneddol, ond a fynegir yn ddealladwy serch hynny.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio ystod o fedrau cyfathrebu, fel sy’n briodol i’r lefel hon o astudio
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu arddangos sgiliau gweinyddol, personol a chymdeithasol estynedig drwy fod yn gyfrifol am brosiect penodol yn y gymuned, sy’n cynnwys cyflawni gwaith annibynnol sylweddol.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud dadansoddiad beirniadol o’r gwahanol ffactorau sy’n rhan o reoli’r celfyddydau
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu arddangos eu gallu i ymgymryd yn aeddfed ag ymchwil annibynnol sylweddol.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud dadansoddiad beirniadol o’r sylfaen ddamcaniaethol sy’n sail i hyrwyddo’r celfyddydau yn y gymuned.
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
One-to-one supervision | 4 | |
Private study | 141 | |
Workshop | 15 | |
Work-based learning | Students will spend at least 40 hours in their community placement. |
40 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 3 (BA/ACC)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 3 (BA/HCAC)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)