Modiwl WXC-4011:
Project Meistr
Project Meistr 2022-23
WXC-4011
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - PGT
60 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Hyd y gwaith: • Traethawd hir: 15,000–20,000 o eiriau. Gall y nifer geiriau fod yn llai os yw’r traethawd yn cynnwys deunydd dadansoddiadol graffig neu ar ffurf tabl (e.e. dadansoddiad Schenkeraidd); • Golygiad: portffolio o drawsgrifiadau mewn nodiant o gerddoriaeth wedi ei drafod a’i gytuno gyda’r arolygydd, ynghyd â sylwebaeth lawn a thraethawd o oddeutu 5,000–10,000 o eiriau; • Cyfansoddiad (mewn nodiant): un gwaith sylweddol neu bortffolio o ddarnau sydd yn sylweddol o ran cwmpas, oddeutu 20–25 munud o ran hyd, ynghyd â sylwebaeth o oddeutu 2,000 o eiriau; • Cyfansoddiad (acwsmataidd/celf sonig): portffolio o ddarnau sydd yn sylweddol o ran cwmpas, oddeutu 14–16 munud mewn perfformiad, ynghyd â sylwebaeth o oddeutu 2,000 o eiriau; • Datganiad: datganiad cyhoeddus o oddeutu 50–60 munud o ran hyd (heb gynnwys seibiannau a thoriadau rhwng y darnau), ynghyd â nodiadau rhaglen. Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn MA mewn Cerddoriaeth ag Addysg sydd yn dewis perfformiad fel eu project terfynol, fe ddylai’r datganiad fod oddeutu 30–35 munud (heb gynnwys seibiannau a thoriadau rhwng y darnau), ynghyd â nodiadau rhaglen (fe fydd y perfformiad a’r nodiadau rhaglen yn pwyso 90% a 10% fel ei gilydd); • Darlith-Ddatganiad: perfformiad o oddeutu 50–60 munud o ran hyd (heb gynnwys seibiannau a thoriadau rhwng y darnau), ynghyd â sylwebaeth eiriol o tua 2,000 o eiriau (asesir y perfformiad a’r sylwebaeth fel un eitem o asesiad). Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn MA mewn Cerddoriaeth ag Addysg sydd yn dewis y Darlith-Ddatganiad fel eu project terfynol, fe ddylai’r datganiad fod oddeutu 30–35 munud (heb gynnwys seibiannau a thoriadau rhwng y darnau), ynghyd â nodiadau rhaglen (fe fydd y perfformiad a’r nodiadau rhaglen yn pwyso 90% a 10% fel ei gilydd); • Portffolio o ddeunyddiau addysgiadol: 15,000–20,000 o eiriau, neu 20–25 munud o gerddoriaeth, neu gydbwysedd cyfartal o’r ddau, neu debyg. Fe fydd angen i’r arolygwr gytuno ar hyd a lled y project o flaen llaw; – Mewn rhai amgylchiadau (e.e. myfyrwyr sydd yn dilyn y cwrs MA Cerddoriaeth ag Addysg), fe fydd yn bosib cyfuno mwy nag un math o gyflwyniad o fewn un project, neu i gytuno ar fath gwahanol o gyflwyniad. Fodd bynnag, fe fydd angen i natur project o’r fath gael ei gymeradwyo rhag blaen gan is-bwyllgor o’r Bwrdd Arholwyr.
Assessment Strategy
-threshold -O ran gwaith creadigol:Gwaith sy'n dangos crap sylfaenol ar rai arddulliau a thechnegau cyfoes, ysgrifennu medrus ar gyfer offerynnau, lleisiau neu gyfryngau eraill, ond heb ddangos ond ychydig o allu creadigol.O ran gwaith sy'n seiliedig ar draethodau:Gwaith sy'n dangos gwybodaeth sylfaenol, gyfyngedig o'r pwnc, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o faterion perthnasol, ond rhywfaint o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
-good -O ran gwaith creadigol:Gwaith sy'n dangos hyder a sicrwydd wrth ymdrin ag arddull, ffurf a thechneg, a lefel nodedig o addewid a gwreiddioldeb creadigol, a dealltwriaeth sicr o offerynnau cerdd, lleisiau neu gyfryngau eraill, ac o sut i ysgrifennu ar eu cyfer.O ran gwaith sy'n seiliedig ar draethodau:Dylai'r gwaith ddangos dealltwriaeth gadarn o'r pwnc, lefel dda o feddwl cysyniadol, ymwybyddiaeth o'r prif faterion o bwys, gyda thystiolaeth o graffter deallusol a mynegiant da.
-excellent -O ran gwaith creadigol:Gwaith sy'n dangos hyder a sicrwydd safon uwch o arddulliad, ffurfiau a thechnegau cerddorol cyfoes, ystod nodedig o adnoddau technegol a meddwl creadigol ar lefel uchel, ac ymwybyddiaeth ddatblygedig o sut i ysgrifennu ar gyfer offerynnau cerdd, lleisiau neu gyfryngau eraill.O ran gwaith sy'n seiliedig ar draethodau:Gwaith sy'n dangos dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth ychwanegol, meddwl yn fwy trylwyr, ymdriniaeth wreiddiol a medrau ysgrifennu rhagorol.
Learning Outcomes
- Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe ddylai’r myfyriwr arddangos dealltwriaeth wreiddiol a/neu annibyniaeth greadiol;
- Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe ddylai’r myfyriwr arddangos sgiliau ymchwil soffistigedig sy’n arddangos ystod eang o fethodolegau ymchwil addas ym maes cerddoreg; sgiliau golygu soffistigedig yn achos golygiad gyda sylwebaeth; tystiolaeth o allu creadigol a thechnegol ym maes cyfansoddi; neu sgiliau technegol a rheolaeth gywir, ynghyd â dealltwriaeth amlwg o’r gerddoriaeth, yn achos perfformiad.
- Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe ddylai’r myfyriwr arddangos y gallu i arddangos ystod eang o sgiliau yn eu maes dewisol;
- Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe ddylai’r myfyriwr arddangos y gallu i ddatblygu dadl (mewn rhyddiaith a/neu mewn cerddoriaeth) gan gyfathrebu’n glir ac mewn modd effeithiol;
- Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe ddylai’r myfyriwr arddangos y gallu i ddeall ystod eang o gysyniadau a thechnegau yn eu maes dewisol;
- Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe ddylai’r myfyriwr arddangos y gallu i feddwl a phwyso a mesur yn feirniadol ac yn annibynnol;
- Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe ddylai’r myfyriwr arddangos y gallu i gwblhau a chyflwyno darn estynedig o waith sydd yn arddangos dealltwriaeth fanwl o’r maes dan sylw;
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Prif Gyflwyniad
Weighting
95%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cynllun Prosiect Cryno
Weighting
5%