Modiwl XAC-1061:
Datblygiad Plant Ifanc
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Educational Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Fliss Kyffin
Amcanion cyffredinol
1. Dysgu am natur holl ddatblygiad plant o'u geni hyd nes eu bod yn dair oed.
2. Ymgyfarwyddo ag ymchwil ddiweddar ym maes babandod: gwaith yr Athro Colwyn Trevarthen ac eraill.
3. deall nodweddion ymarfer da mewn meithrin datblygiad cyfannol a dulliau o’u cymhwyso yn y gweithle.
Cynnwys cwrs
Crynodeb o Gynnwys y Cwrs:
1. y datblygiad cyfan o'u geni hyd nes eu bod yn dair oed, yn cynnwys:
(i) datblygiad corfforol: twf, iechyd, a gofal;
(ii) datblygiad emosiynol a deallusol: patrymau niwrolegol o’u geni hyd nes eu bod yn un oed, y berthynas gyda’r rhiant neu’r prif ofalwr, dechrau cyfathrebu heb eiriau a chaffael iaith, datblygu schema.
(iii) datblygiad personol a chymdeithasol: hunan-barch a hunanwerth, dysgu rhannu a beth ydyw i fod yn ffrind, rheoli tymer a meithrin strategaethau ar gyfer byw ynghyd;
2. Paratoi i feithrin y datblygiad cyfan yn y gweithle, yn unol â nodweddion ymarfer da wrth gynllunio a gweithredu.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: Dealltwriaeth sylfaenol o’r deilliannau dysgu.da
Da: Dealltwriaeth gyffredinol dda o’r holl ddeilliannau dysgu a sut maent yn cysylltu â’i gilydd.ardderchog
Rhagorol: Amgyffrediad da iawn o’r holl ddeilliannau dysgu a’r gallu i adfyfyrio ar sut mae egwyddorion ymarfer da ym maes babandod o eni’r plentyn hyd nes ei fod yn dair oed yn cael eu cymhwyso yn y gweithle.Canlyniad dysgu
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu gwneud y canlynol: dangos gwybodaeth am natur holl ddatblygiad plant o'u geni hyd nes eu bod yn dair oed:
- dehongli ymchwil ddiweddar a sut y gall effeithio ar ymarfer;
- cymhwyso yn y gweithle egwyddorion ymarfer da ym maes babandod o adeg y geni hyd nes bod y plentyn yn dair oed.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwaith Cwrs 4000 Gair | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Oriau Dysgu Tybiannol: Dyma gyfanswm yr amser y disgwylir y bydd y myfyriwr cyffredin yn ei dreulio ar y cwrs. Ceir dwy elfen: a) Amser Cyswllt - e.e. yn y dosbarth, neu waith maes 44 awr (b) Astudiaeth Breifat – amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau 156 awr Patrwm y Dysgu: Darlithoedd 20 Awr Lleoliad 24 awr Strategaeth Addysgu: 1. 1 ddarlith x 2 awr x 10 wythnos 20 awr 2. 4 diwrnod ar leoliad @ 6 awr y dydd 24 awr |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q318: BA Eng Lang for Speech & Language Therapy (Subj to Validn) year 1 (BA/ELSLT)