Modiwl XAC-2032:
Y Plentyn Byd-eang
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Education and Human Development
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mr Clive Underwood
Amcanion cyffredinol
Bwriad y modiwl yw craffu ar faterion yn ymwneud â mynediad cyfartal at addysg mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae’n herio rhai o’r rhagdybiaethau am addysg, gan edrych yn arbennig ar anghydraddoldeb o safbwynt addysgol, cymdeithasol a lles mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu. Mae’n canolbwyntio ar themâu amrywiaeth, cymhathiad, cydraddoldeb a chyfiawnder i blant a phobl ifanc. Mae’n craffu ar sut mae ymarferion economaidd a gwleidyddol yn effeithio ar gyfleoedd addysgol, a chanlyniadau cymdeithasol a dewisiadau bywyd. Mae’n archwilio swyddogaeth cyrff rhyngwladol, llywodraethau, sefydliadau anllywodraethol etc wrth hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc.
Cynnwys cwrs
Y cefndir yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP, 1989) ac y Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC): Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar gymharu a chyferbynnu darpariaeth addysgol i blant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o wledydd datblygedig ac sy'n datblygu.
Gosodir y pwyslais ar y canlynol:
• y ffordd mae polisïau addysgol yn cydnabod neu'n anwybyddu anghenion plant a hyrwyddo cynhwysiant neu allgau cymdeithasol.
• y diffyg cyfle cyfartal a’r anghydraddoldebau addysgol mewn gwledydd
datblygedig a gwledydd sy’n datblygu
•heriau moesol, moesegol, economaidd, a gwleidyddol yr unfed ganrif ar hugain
o ran cam-drin hawliau ac anghenion plant mewn amrywiol gyd-destunau, gan gynnwys: plant fel ceiswyr lloches, ymfudwyr economaidd a ffoaduriaid; plant fel caethweision a llafur plant; plant yn filwyr ac yn amddifad oherwydd rhyfel; plant sydd wedi eu hecsbloetio’n rhywiol; plant mewn gwrthdaro diwylliannol a chrefyddol a gweithredoedd terfysgol; plant ag AIDS a phlant yn byw mewn tlodi.
• swyddogaeth ac ymyriad mudiadau rhyngwladol, megis y Cenhedloedd Unedig, ILO, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol i sicrhau newid cymdeithasol a chyfiawnder a thegwch i blant a phobl ifanc.
Meini Prawf
trothwy
Arddangos yn foddhaol y deilliannau dysgu
da
Gwybodaeth dda a dealltwriaeth sylweddol, tystiolaeth gadarn o sgiliau gwerthuso a dadansoddi cymwys, yn drefnus ac wedi ei strwythuro’n dda.
ardderchog
Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth ddatblygedig, cryn dystiolaeth o adfyfyrio beirniadol a gwerthuso eithriadol, strwythur a dadleuon ardderchog
Canlyniad dysgu
-
- Deall a thrafod yn feirniadol y gwerthoedd y tu ôl i bolisïau addysgol gwledydd datblygedig ac sy’n datblygu;
-
- Arfarnu cryfderau a gwendidau polisïau ac ymarferion o’r fath yn eu cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol, diwylliannol;
-
- Nodi a thrafod yn feirniadol anghyfiawnder a diffyg cydraddoldeb a chyfleoedd addysgol trwy’r byd;
-
- Deall effaith materion byd-eang cyfredol, mewn gwahanol wledydd, ar draws y byd datblygedig a’r byd sy’n datblygu ar anghenion a datblygiad cymdeithasol, amgylcheddol ac addysgol plant;
-
- Nodi a gwerthfawrogi’r ffactorau economaidd a gwleidyddol allweddol sy’n rhyngweithio mewn gwledydd sy’n diystyru hawliau plant;
-
- Gwerthuso gwaith gwahanol fudiadau rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol yn ymyrryd ac yn eiriol dros newid yng nghyd-destun hawliau ac addysg plant.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Written assignment, including essay | Traethawd Beirniadol | 50.00 | |
Written assignment, including essay | Clytwaith | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 33 awr o amser cyswllt yn cael ei ddarparu mewn dull dysgu cyfunol, yn cynnwys darpariaeth ar-lein ar ffurf tasgau strwythuredig, darlleniadau, cyflwyniadau wedi'u recordio a rhai seminarau cymorth wyneb yn wyneb. |
33 |
Private study | 167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/xac-2032.htmlRhestr ddarllen
Reading List
Check Bb for additional weekly reading sources for sessions and assignments
Key texts
Cox C. & Marks J, (2006) This Immoral Trade: Slavery in the 21st Century, Monarch
Penn, H (2005) Unequal Childhood: Young children’s lives in poor countries, Routledge
Other recommended texts:
Ahier, J., et al., (2000) Diversity and Change: Education, Policy and Selection, Routledge
Alexander, R., (2001) Culture and Pedagogy, Blackwell, 2000.
Bales, K (2009) Disposable People, California
Beah, I. (2007) A long way gone: Memoirs of a boy soldier, London: Fourth Estate
Brown, M., and Harrison, D. (1996) Changing Childhood Oxford UP.
Children & Society, (2008) Special Issue: Child Slavery Worldwide, Vol. 22, Issue 3
**Craig, G. (ed) (2010) Child Slavery Now – A Contemporary Reader, Bristol:
The Policy Press General Assembly of the United Nations (1989),
The Conventions of the Rights of the Child http://www.unicef/org/CVC. Mann, S, (2007),
Human Rights and Social Justice in a Global Perspective: An Introduction to International Social Work , OUP
Martaine E et al (2006) Improving Primary Education in Developing Countries, World Bank
**Montgomery, H. (ed) (2013) Local Childhoods, Global Issues, 2nd edition, Bristol:
The Policy Press Rosen, D. M. (2005) Armies of the Young: child soldiers in war and terrorism, Rutgers University Press UNICEF. (various)
State of the World's Children. Oxford UP. UN. (2000) Millennium Development Goals.
**Wells, K. (2009) Childhood in a Global Perspective, Cambridge: Polity Press Wessells, M. G. (2006) Child Soldiers: from violence to protection, Harvard University Press
Williams J H & Cummings, W K, (2005) Policy-making for Education Reform in Developing Countries: Contexts and Processes, Oxford
Journals (all accessible via the Library catalogue)
*Journal of International Development International Journal of Educational Development Childhood – A Journal of Global Child Research Children’s Geographies Children and Society Gender and Education Gender and Society
*New Internationalist: a magazine that you can subscribe to, but you can go online and follow their blogs and international reports & stories. An excellent resource for global issues from a non-Western perspective. www.newint.org
Key Organisations/Websites Human Rights Watch: www.hrw.org
International Labour Organisation (ILO): www.ilo.org
UNICEF: www.unicef.org
ECPAT (Campaigning against child trafficking and transnational child exploitation): www.ecpat.org.uk
UN Women (UN entity for gender equality and the empowerment of women): www.unwomen.org
Unicef Office of Research (‘Innocenti Centre’): www.unicef-irc.org
Save the Children International: www.savethechildren.net Minority Rights Group International: www.minorityrights.org
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 2 (BA/API)
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 2 (BA/APIS)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 2 (BA/CYP)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 2 (BA/CYS)
- X317: BA Childhood and Youth Studies and Social Policy year 2 (BA/CYSP)
- X315: BA Childhood and Youth Studies and Sociology year 2 (BA/CYSS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)