Modiwl XPC-4212:
Astudiaethau Proffesiynol, Addysgeg a Chraidd
Astudiaethau Proffesiynol, Addysgeg a Chraidd 2022-23
XPC-4212
2022-23
Ysgol Gwyddorau Addysgol
Modiwl - Semester 1 a 2
30 credits
Module Organiser:
Lowri Jones
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno elfennau hanfodol addysgu a dysgu ac yn rhoi'r offer i chi ddeall sut mae addysg yn cael ei chynllunio, ei chyflwyno a'i gwerthuso. Byddwch yn canolbwyntio'n naturiol ar yr ystafell ddosbarth i ddechrau, ond mae hefyd yn bwysig edrych ar sut mae ysgolion yn cynllunio ac yn cyflwyno'r cwricwlwm o fewn cyd-destun cenedlaethol.
Byddwch yn astudio pwysigrwydd rhoi sylw i anghenion dysgwyr o fewn y Pedwar Diben Dysgu, byddwch yn dod i ddeall sut mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio o amgylch y chwe Maes Dysgu a Phrofiad, a byddwch yn cael y cyfle i brofi cynllunio cwricwlwm yn yr ysgolion y byddwch yn mynd iddynt ar leoliad.
Byddwch yn astudio:
• Ystod o ddamcaniaethau dysgu cadarn (e.e. Piaget, Vygotsky, Dewey, Bruner, Hattie, Dweck) sy'n rhoi'r offer dadansoddol i chi werthuso dysgu a chysyniadau addysgeg yn feirniadol yn eu cyd-destun. Edrychir ar ddimensiynau cymdeithasol, diwylliannol, gwybyddol a seicolegol dysgu gan eich galluogi i ddadansoddi dysgu yn effeithiol ac adfyfyrio ar eich ymarfer eich hun;
• Bydd cysyniadau rheolaeth dosbarth yn llywio'ch cynllunio a sicrhau bod eich ymarfer a'ch adfyfyrio yn seiliedig ar ymchwil, theori a thystiolaeth. Ystyrir natur tystiolaeth a gwybodaeth gan eich galluogi i werthuso effaith eich gweithredoedd ar ddysgu mewn cyd-destun;
• Asesu a gwahanol ffyrdd o'i ddefnyddio; er enghraifft: holi effeithiol; cynllunio cwricwlwm yn y tymor byr a chanolig; rhoi gwybodaeth i rieni; tystiolaeth ymchwil ac ymholi proffesiynol; arholiadau cyhoeddus a phrofion statudol;
• Bydd dogfennau a chynllun cwricwlwm yn cael eu hastudio ar lefel polisi, o safbwynt ymchwil ac ar lefel profiadau disgyblion er mwyn datblygu ymwneud beirniadol ag arfer cyfredol, datblygiadau trawsgwricwlaidd a chynlluniau newydd (e.e. llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol);
• Treftadaeth arbennig lleoliadau addysgol, polisi a diwylliant Cymru ac ymwneud yn feirniadol ac yn gydweithredol o ran sut mae'n dylanwadu ar gyd-destunau lleol a phrofiadau disgyblion;
• Swyddogaeth llais disgyblion o ran eich galluogi i werthfawrogi hawliau plant ac ymateb i anghenion pob dysgwr. Edrychir yn fanwl ar yr holl gysyniadau perthnasol ynghylch diogelu; e.e. polisïau ysgol; diogelu ar-lein i chi a dysgwyr yn yr ysgol; agweddau moesegol ymchwil athrawon; amddiffyn plant; cam-drin posibl a lles;
• Y dylanwadau cymdeithasol, diwylliannol, emosiynol a phersonol cymhleth ar ddysgwyr o safbwynt damcaniaethol a sut y caiff hyn ei gymhwyso'n ymarferol. Bydd hyn yn eich galluogi i roi sylw i anghenion pob dysgwr yn yr ystafell ddosbarth. Edrychir yn feirniadol ar syniadau'n ymwneud â thegwch, gan ystyried ffactorau diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac economaidd-gymdeithasol amrywiol;
• Byddwch yn datblygu eich defnydd o'r Gymraeg; o ddechreuwyr, a fydd yn meistroli ymadroddion bob dydd, i siaradwyr rhugl a fydd yn mireinio eu sgiliau ysgrifennu. Astudir proffiliau ieithyddol amrywiol Gogledd Cymru, a bydd disgwyliadau o ran defnyddio'r Gymraeg yn cael eu cyflwyno yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru;
• Datblygu, gweithredu a gwerthuso eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol personol eich hun mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd. Bydd yr holl gynnwys ac asesiadau yn datblygu eich sgiliau meddwl, gan eich galluogi i gyflwyno dadleuon a damcaniaethau cymhleth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Assessment Strategy
-threshold -Bydd pob deilliant dysgu wedi'u cyflawni ar lefel foddhaol.Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod foddhaol o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil.Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol foddhaol wrth fyfyrio ar ystod gyfyngedig o arddulliau addysgu a dysgu.Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio foddhaol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon foddhaol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd. -good -Bydd y rhan fwyaf o ganlyniadau dysgu wedi'u cynhyrchu ar lefel dda. Gall rhagoriaeth mewn rhai deilliannau dysgu wneud iawn am gyrhaeddiad boddhaol mewn eraill.Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gynnwys y modiwl yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth dda o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil.Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol da wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu.Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio da a byddant yn gallu cyfathrebu i safon dda mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd. -excellent -Bydd y rhan fwyaf o'r deilliannau dysgu wedi'u cyflawni ar lefel ragorol.Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod ardderchog o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil.Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol rhagorol wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu.Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio rhagorol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon ragorol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad B
Weighting
40%
Due date
26/01/2022
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Y Portffolio Cymraeg Rhan B
Weighting
0%
Due date
09/02/2022
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Y Portffolio Cymraeg Rhan C
Weighting
0%
Due date
27/04/2022
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Rhan A: Myfyrdod Beirniadol (20% o’r modiwl, 1200 o eiriau) Mae Rhan A yn seiliedig ar bum Myfyrdod Beirniadol (MB) y byddwch yn eu cwblhau yn dilyn y sesiynau PACh a gyflwynir ym mis Medi. Dylid cwblhau'r Myfyrdodau Beirniadol yn wythnosol a'u postio i'ch PDP. Dylid cysylltu pob myfyrdod â'r safonnau proffesiynnol a nodir yn y tabl isod. Dylid postio pob myfyrdod i'ch PDP cyn y dyddiad cau (gweler Blackboard a MyBangor am bob dyddiad). Bydd angen I chi ddewis un o’r myfyrdodau uchod, a’i fireinio a'i gyflwyno i'r porth ar Blackboard fel traethawd 1200 gair. Ar gyfer y Myfyrdod Beirniadol o'ch dewis dylech: Baratoi cyflwyniad byr Ymestyn ar y pwyntiau trafod a gyflwynywd yn y tabl Creu cysylltiadau gyda’r darllen cefnirol Ymchwilio i lenyddiaeth ychwanegol yn annibynnol Trafod unrhyw oblygiadau i’ch ymarfer (Darlleniadau a chwestiynaiu i'w gweld yn y Llawlyfr)
Weighting
20%
Due date
12/10/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Y Portffolio Cymraeg Rhan A
Weighting
40%
Due date
20/10/2021