Newyddion: Ionawr 2015

O ble y daw microbau sy’n ymwrthol i antibiotig?

Mae’r bygythiad cynyddol gan ficrobau sy’n ymwrthol i antibiotig mewn perygl o’n  dychwelyd i ‘oesoedd tywyll meddyginiaeth’. Dyna a ddywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, wrth lansio ymchwiliad y llynedd.

Amcangyfrifir bod straeniau o facteria sy’n ymwrthol i gyffuriau yn gyfrifol am 5,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn y DU a chymaint â 25,000 o farwolaethau yn Ewrop.

Mae un academydd o Brifysgol Bangor yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn ymwrthedd antibiotig, ac yn ymchwilio ar sawl ‘ffrynt’, gan gynnwys ceisio datblygu prawf cyflym ac effeithiol a fyddai’n canfod  straeniau o facteria a oedd yn cario genynnau ymwrthol i  antibiotig.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2015

Ymddangosiad naturiol yn llawer pwysicach na cholur wrth bwyso a mesur dengarwch

Mae’r syniad bod colur yn eich gwneud yn fwy deniadol i’w weld ym mhob man  o’n cwmpas. Ar y rhyngrwyd ceir miloedd o diwtorialau ar sut i roi colur, mae cylchgronau ffasiwn yn llawn erthyglau ar hoff goluron enwogion, ac mae llawer o ferched yn teimlo na allant fynd allan o’r tŷ hebddo. Mae’r ymddygiad beunyddiol yma wedi bod yn bwnc ymchwiliadau gwyddonol hefyd, gyda llawer o astudiaethau’n darganfod bod merched nid yn unig yn cael eu hystyried yn fwy deniadol gyda cholur, ond eu bod hefyd yn iachach, yn fwy medrus ac yn fwy hoffus.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2015

Dr Lucy Huskinson, cyd-gadeirydd y gynhadledd ryngwladol, ym Mhrifysgol Yale, cyd-noddi’r gan Ysgol Diwinyddiaeth Yale

Mae Dr Lucy Huskinson yn gyd-gadeirydd (gyda Dr Joe Cambray, cyn- Lywydd y IAAP) y Pwyllgor Rhaglen ar gyfer y gynhadledd ryngwladol, Psyche, Spirit, and Science: negotiating contemporary social and cultural concerns, Gorffennaf 9-12, Prifysgol Yale, New Haven, Connecticut.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2015

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014: Trosolwg o Ganlyniadau

O bryd i'w gilydd, mae llywodraeth Prydain yn noddi proses, y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) sy'n graddio'r gweithgarwch ymchwil ymhob prifysgol ym Mhrydain, ac mae'r canlyniadau diweddaraf wedi cael eu rhyddhau yn awr ar gyfer REF 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2015

Hediadau amrywiol gwyddau ymfudol yn rhoi golwg unigryw ar ffisioleg a biomecaneg adar ar uchderau mawr

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n astudio bioleg ymfudol, wrth iddynt hedfan yn uchel iawn dros ucheldir Tibet a mynyddoedd yr Himalaya, wedi datgelu sut mae'r adar hyn yn ymdopi â hedfan mewn aer cymharol denau o ddwysedd isel dros y mynyddoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2015

Cenedl ofalgar ymwybodol?

Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan allweddol mewn cyflwyno Ymwybyddiaeth Ofalgar i'r Deyrnas Unedig, mewn ymchwilio i’w heffeithiolrwydd mewn lleoliadau gwahanol ac mewn hyfforddi ymarferwyr.

Mae Grŵp Seneddol Hollbleidiol, sydd wedi bod yn ystyried Ymwybyddiaeth Ofalgar, bellach wedi lansio adroddiad interim The Mindful Nation UK, sy’n annog pob plaid yn yr etholiad nesaf i ystyried y ffordd orau o gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar yn y ffordd y mae eu plaid yn mynd i'r afael â’r argyfwng iechyd meddwl.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2015

Dyfarnu Cymrodoriaeth Ymchwil o fri i Archaeolegydd o Fangor

Mae cronfa cymrodoriaeth tair mlynedd Ymchwil Leverhulme wedi-i ddyfarnu i'r Athro Nancy Edwards, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2015

Efrydiaeth PhD: Cymdeithas Sifil WISERD

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser, dan nawdd WISERD, o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, yn dechrau ar 1 Hydref 2015. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015