Dr Marcel Stoetzler wedi ei wneud yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd gan y Pears Institute

Mae Dr Marcel Stoetzler, Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg ym Mangor, wedi cael ei wneud yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd gyda'r PearsDr Marcel StoetzlerDr Marcel Stoetzler Institute for the Study of Antisemitism, Coleg Birkbeck, Prifysgol Llundain, dros gyfnod ei seibiant astudio'r tymor hwn. Bydd yn treulio'r amser yn gweithio ar fonograff am Dialectic of Enlightenment gan Horkheimer ac Adorno  a gyhoeddwyd 70 mlynedd yn ôl yn 1947. Yn y cyfamser, disgwylir i'w lyfr Beginning Classical Social Theory gael ei gyhoeddi gan Manchester University Press ym mis Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2017