Newyddion: Ebrill 2018

Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion.    Fe wnaeth addysgwyrseicolegwyrgwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018

Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol

Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018