Newyddion: Mai 2019

Athro o Fangor yn ennill Medal Hugh Owen

Dyfarnwyd Medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru i’r Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019

Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia

Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru.

Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o SeicolegCyfrifiadureg a Pheirianneg ElectronigBusnesDylunio CynnyrchCerddoriaeth a'r Cyfryngau, a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019

Ffocws ar les

Yr wythnos hon roedd ein Darlithydd Dr Anne-Marie Smith yng nghynhadledd y Fenter Ymchwil Addysg Ddiwylliannol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2019

Lleisiau Bach

Ddydd Iau, cynhaliodd y Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ddiwrnod hyfforddi Little Voices / Lleisiau Bach ar gyfer ymarferwyr, a drefnwyd gan Arwyn Roberts (Bangor) a Helen Dale (Abertawe).

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2019

Dathliad Cyflogadwyedd!

Llongyfarchiadau mawr i Claire Hodgkinson, Astudiaethau Plentyndod a Ieuenctid, Blwyddyn 3, ar ei henwebiad ar gyfer gwobr Cyflogadwyedd. Da Iawn Claire!

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019