TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Overview

Course facts

  • Name: TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol
  • Qualification: TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)
  • Duration: Blwyddyn

caban

Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd gan AC Addysg Gorfforol (AG) ddealltwriaeth sicr o addysgeg Addysg Gorfforol a sut mae'r pwnc yn cyfrannu at hyrwyddo ymgysylltiad gydol oes â gweithgaredd corfforol sy'n gwella iechyd.

“Physical Education is the planned, progressive learning that takes place in school curriculum timetabled time and which is delivered to all pupils. This involves both ‘learning to move’ (i.e. becoming more physically competent) and ‘moving to learn’ (e.g. learning through movement, a range of skills and understandings beyond physical activity, such as co-operating with others). The context for the learning is physical activity, with children experiencing a broad range of activities, including sport and dance.” 

Anogir AC Addysg Gorfforol i weld eu hunain fel dysgwyr gydol oes a ysgogir i ymestyn eu dealltwriaeth o gyd-destun a diwylliant dysgu AG yng Nghymru. Caiff eu haddysgu ei oleuo gan y damcaniaethau'n ymwneud â dysgu AG   gan ddatblygu eu gallu i ymwneud yn feirniadol ag ymchwil a hyrwyddo eu haddysgu eu hunain.

Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.  Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. 

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.

Course content is for guidance purposes only and may be subject to change.

Course Content

Bydd AC yn ymgorffori pob un o'r pedwar diben yn eu haddysgu, ond yn benodol byddant yn gwybod sut i sicrhau bod dysgwyr yn dod yn unigolion iach a hyderus. Byddant yn deall y berthynas uniongyrchol rhwng profiadau ymarfer cadarnhaol ac iechyd a lles plant a phobl ifanc; yn ogystal, byddant yn hyrwyddo agweddau positif tuag at gymryd rhan gydol oes mewn gweithgareddau corfforol sy'n gwella iechyd.

Bydd AC yn datblygu eu gwybodaeth o gynnwys y pwnc a'u dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu mewn Addysg Gorfforol. Bydd eu hastudiaeth o wybodaeth bynciol yn cwmpasu ystod o weithgareddau corfforol, addysgu manylebau ar lefel arholiadau, a hefyd gynnwys rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol mewn AG.

Bydd AC llwyddiannus yn gallu gwneud y canlynol:

  • nodi a gwerthuso cysyniadau a materion addysgol sy'n ymwneud ag iechyd, gweithgaredd corfforol ac AG;
  • adnabod anghenion dysgu disgyblion mewn gweithgaredd iechyd a chorfforol a dehongli'r anghenion dysgu hyn er mwyn cynllunio, addysgu, asesu a gwerthuso gwersi a chynlluniau gwaith;
  • dangos gwybodaeth gadarn o gynnwys pwnc a gwybodaeth cynnwys pedagogaidd mewn iechyd, gweithgaredd corfforol ac AG;
  • dangos dealltwriaeth gadarn o ofynion statudol y Cwricwlwm newydd yng Nghymru;

Entry Requirements

  • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg (Iaith gyntaf), Llenyddiaeth Gymraeg. Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B/radd 5 mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd.
  • Mae profion cyfwerth â TGAU Gradd B mewn Saeseng a mathemateg ar gael i ymgeiswyr gael eu derbyn i'r cyrsiau addysg athrawon ar gyfer y sesiwn academaidd nesaf ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll y prawf cyfwerth fod â gradd C safon TGAU.
  • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.

International Students

For information and further detailed guidance on entry requirements for International Students, including the minimum English Language entry requirement, please visit the Entry Requirements by Country pages on the International Education Centre section of our website.

Ask the IEC for assistance...

If you want advice or a general chat about what’s available contact the International Education Centre on +44 (0) 1248 382028 or email international@bangor.ac.uk

Apply

Noder bod ymgeisio ar gyfer cwrs TAR yn wahanol i'r drefn ymgeisio am gyrsiau Ôl-radd eraill Prifysgol Bangor.

Dylid ymgeisio am gwrs TAR trwy wefan UCAS Teacher Training (UCAS TT).

How to Apply

Home/EU students

Home/EU students: apply online yourself with the help of our Guidance Notes on online application for Home/EU students. We strongly recommend you read these before you start to apply online.

Apply online

Once you have read the Guidance Notes you should apply using our Online Application form.

Need help applying? Home/EU students please contact:

Postgraduate Admissions: postgraduate@bangor.ac.uk or write to:

Admissions Office
Bangor University
Gwynedd
LL57 2TF

Telephone: +44 (0)1248 383717.

International students

  • Agents: if you are an agent applying on behalf of the student, then you can Apply here.  For further guidance click here

Need help applying? International students please contact:

International Education Office: international@bangor.ac.uk or write to

International Education Centre
Bangor University
Gwynedd
LL57 2DG

Telephone: +44 (0) 1248 382028

When to apply

The University will accept applications throughout the year, but we would generally advise that you send in your application form by the end of June to ensure that you have time to make any funding and/or accommodation arrangements, and for documents such as transcripts and references to be obtained if not submitted with the application. This will also give you more time to meet any conditions we may potentially attach to an offer.

Careers and Employability

Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.  Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.  Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.  O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.  Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.

Cysylltiadau â diwydiant:

Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.

Funding

Cymhellion Hyfforddi i Athrawon

Gallai graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at £20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.

Y pynciau blaenoriaeth yw:

  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Cyfrifiadureg
  • Ieithoedd Tramor Modern

Manylion llawn yma.

Gweler hefyd:

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Further information

Contact us

Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Ffôn : +44 (0) 1248 382408

Ebost: addysg@bangor.ac.uk

Other Courses

TAR Cynradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Next steps