Newyddion: Chwefror 2015
Jamie Woodruff - My Life at Bangor
Gwyliwch y fideo o Jamie Woodruff sydd yn fyfyriwr Cyfrifiadureg ym Mangor. Mae'n rhannu ei brofiadau gyda BangorTV ac yn son am ei ddiddordeb mewn hacio moesol ac yn dweud ei fod yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn gan Canolfan Dyslecsia Miles.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2015
Gorsaf Ymchwil Prifysgol yn cael ymweliad brenhinol
Daeth y Dywysoges Frenhinol i ymweld â gorsaf ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor yn Abergwyngregyn heddiw (Gwener, 27 Chwefror 2015). Yn cadw cwmni i'r Dywysoges Anne, y Dywysoges Frenhinol, ar yr ymweliad oedd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Mr Edmund Seymour Bailey, a gwelodd nhw beth o'r gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud yn y ganolfan ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015
Mae bio-nwy gwastraff o leiaf ddeng gwaith yn fwy effeithiol na bio-nwy cnydau am leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr
Mewn papur sydd newydd ei ryddhau yn y cyfnodolyn bio-ynni blaenllaw, Global Change Biology Bioenergy, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a'r Thünen Institute yn Yr Almaen, yn dod i'r casgliad bod bio-nwy cnydau a bio-danwyddau hylif yn ddewisiadau aneffeithlon ar y gorau i leihau nwyon tŷ gwydr (GHG), fesul hectar o dir a ddefnyddir, ac am bob £ o gymhorthdal cyhoeddus sydd ei angen. Ar eu gwaethaf, gallai'r dewisiadau hyn arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr uwch yn fyd-eang oherwydd y newid anuniongyrchol yn nefnydd y tir drwy gael gwared ar gynhyrchu bwyd. Mewn cymhariaeth, mae bio-nwy gwastraff a pheledi gwresogi Miscanthws (gwair prennaidd) yn lleihau nwyon tŷ gwydr o leiaf ddeng gwaith yn fwy am bob tunnell o bio-màs deunydd sych ac am bob hectar o dir a ddefnyddir, gan arwain at leihau nwyon tŷ gwydr yn gost-effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015
Pryd a Mwy….
Tecawês, archfarchnadoedd, prydau bwyd parod, ffâ o Kenya a pizza yn y rhewgell. Does dim modd byw hebddynt heddiw? Pwy all ddychmygu byd heb ddewis eang o fwydydd parod? Ond felna oedd hi slawer dydd a bydd dwy (neu dair) genhedlaeth yn dod ynghyd i rannu Pryd a Mwy ac i drafod bwyd ddoe a heddiw ym mwyty y Gwenyn Prysur, Penrhyndeudraeth rhwng 12-2 o’r gloch ar ddydd Iau 26ain Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2015
Y llanw'n corddi'r gwres Atlantig dwfn yng Nghefnfor yr Arctig
Mae ymchwilwyr wedi canfod sut mae dŵr cynnes yr Atlantig sy'n llifo'n ddwfn i mewn i Gefnfor yr Arctig yn cymysgu gyda dyfroedd oerach uwchben a chyfrannu at doddi’r rhew môr yn yr Arctig. Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (dyddiad), yn dangos bod llif y llanw yn yr Arctig yn gwneud i ddŵr cynnes, dwfn (sy'n deillio o Lif y Gwlff) gymysgu gyda dŵr oer, ffres sy'n gorwedd uwchben. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at doddi’r rhew môr sy'n arnofio.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
ADNODD yn ennill ysgoloriaethau pwysig y Gymanwlad ar gyfer MSc Coedwigaeth Drofannol
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) yn falch iawn o gyhoeddi y cafwyd cyllid ar gyfer 10 ysgoloriaeth i'r cwrs MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell) fydd yn dechrau ym mis Medi 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2015
Prifysgol Bangor ymysg y 30 uchaf yn y byd yn y World GreenMetric Ranking
Mae Prifysgol Bangor wedi caei ei rhoi ymysg y 30 prifysgol 'wyrddaf' yn y byd. Roedd yr UI GreenMetric World University Ranking diweddaraf yn cymharu 360 o brifysgolion mewn 62 o wledydd ar eu hymdrechion i sicrhau cynaliadwyedd y campws a rheoli prifysgolion mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015
Dull newydd a mwy effeithlon o samplu bioamrywiaeth yn cael ei ddefnyddio yn rhai o brif aberoedd Prydain
Mae dwy o brif aberoedd Prydain wedi bod yn fannau profi llwyddiannus i ddull newydd ac effeithiol o 'wirio iechyd' bioamrywiaeth dŵr, a gall arwain at samplu cyflymach a mwy effeithlon mewn safleoedd eraill. Cyflawnir "bio-fonitro", neu asesu effeithiau gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol, yn aml drwy fonitro amrywiaeth biolegol. Mae dulliau presennol yn dibynnu ar adnabod rhywogaethau trwy ddulliau maniwal ond mae hynny'n cymryd amser ac yn aml yn canolbwyntio ar greaduriaid mwy. Felly, ni allant weithiau adlewyrchu iechyd cynefinoedd neilltuol yn gywir.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2015
Gall organebau bychain iawn newid wyneb gwyddor arfordirol
Mae ymchwil wyddonol newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Nature Communications , dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â gwyddonwyr o'r National Oceanography Centre yn Lerpwl a Phrifysgolion St. Andrews, Hull, Leeds a Plymouth, wedi darganfod bod siwgrau 'gludiog' a gynhyrchir gan ficro-organebau yn cael effaith eithriadol fawr ar symudiad tywod a mwd mewn amgylcheddau dŵr.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015
Mae gwerthoedd cysegredig yn allweddol i sicrhau cadwraeth coedwigoedd sydd ar ôl yn Ethiopia
Mae coedwigoedd sy'n gysegredig i bobl leol yn llai tebygol o ddioddef datgoedwigo yn ôl canlyniadau ymchwil gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2015