Newyddion: Medi 2017
Gallai ffermydd godro mwy a dwysach hefyd olygu ôl-troed llaeth mwy
Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Global Change Biology yn herio'r syniad bod y duedd tuag at ffermydd godro mwy a dwysach yn lliniaru newid yn yr hinsawdd trwy leihau ôl-troed carbon cynhyrchu llaeth. Edrychodd tîm o arbenigwyr maeth anifeiliaid a modelwyr amgylcheddol o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth y tu hwnt i ffiniau astudiaethau ôl-troed carbon arferol systemau ffermio i chwilio am ganlyniadau allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol gan ystyried newidiadau i gynhyrchu porthiant gwartheg godro ac i ffermydd cig eidion a allai gystadlu am laswelltir gyda ffermydd godro.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2017
Cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon ar broject BlueFish
Casglodd ymchwilwyr, cynrychiolwyr y diwydiant a chynhyrchwyr masnachol o naill ochr i Fôr Iwerddon ynghyd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth i lansio Project BlueFish, cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon a fydd yn archwilio effaith newid yn yr hinsawdd ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn ym Môr Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2017
Gwyddonwyr yn galw am fwy o ymchwil i sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio ar wely'r môr
Mae grŵp o wyddonwyr o'r Deyrnas Unedig, a gydlynir gan Brifysgol Southampton, wedi cyhoeddi ymchwil helaeth ar y ffordd mae diwydiant a newid amgylcheddol yn effeithio ar welyau ein moroedd. Fodd bynnag, dywedant bod angen gwneud mwy o waith i helpu i ddiogelu'r ecosystemau cymhleth hyn a'r manteision y maent yn eu rhoi i bobl at y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017
Dydd barn i ymosodwyr morol
Gofynnir i wirfoddolwyr yng ngogledd Cymru helpu ymgyrch genedlaethol i dracio ymosodiad sy'n digwydd o gwmpas arfordir y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2017
Cloriannu ymaddasu esblygiadol - ydi'n modelau'n gywir?
Un sialens sy'n wynebu gwyddonwyr yw amcangyfrif sut y bydd ein hamgylchedd, a'r we gymhleth o greaduriaid sydd ynddo, yn ymateb i newidiadau yn eu hamgylchedd o ganlyniad i newid hinsawdd neu ddylanwadau dynol eraill. Yn draddodiadol, er mwyn asesu sut y bydd rhywogaethau'n esblygu dros gannoedd o genedlaethau, mae gwyddonwyr wedi ystyried fesul un neu mewn parau elfennau ecolegol sy'n achosi newid yn yr amgylchedd. Mae'r elfennau hyn yn cynnwys pethau fel cynnydd mewn tymheredd, cynnydd mewn CO2 neu newidiadau mewn plaleiddiaid neu wrteithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2017