Newyddion: Tachwedd 2017
Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen
Mae Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn un o awduron adroddiad ar y weledigaeth dros amaeth yng Nghymru, sydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (27 Tachwedd 2017). Mae’r adroddiad, Amaeth Cymru, Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen wedi ei lunio gan grŵp sy’n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys undebau ffermwyr, cyrff ardollau, llywodraeth, academyddion ac arbenigwyr diwydiant.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2017
Gwyddonwyr Bangor yn arwyddo llythyr at ddynoliaeth
Mae gwyddonwyr o Fangor ymhlith 15,364 o wyddonwyr o 184 o wledydd ledled y byd sydd wedi arwyddo ‘ llythyr o rybudd ’ at ddynoliaeth ynglŷn â’r sefyllfa ddybryd sydd yn ein hwynebu.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2017
Blue Planet II: can we really halt the coral reef catastrophe?
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John Turner o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18 . Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe fyddwn ni’n defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i ddatgelu llongddrylliadau tanddwr o’r Rhyfel Mawr ac yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd arfordir Cymru adrodd storïau nas clywyd o’r blaen am y Rhyfel Mawr ar y Môr.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Mae'r llen iâ yn toddi ac yn cael effaith fyd-eang ar lanw'r môr
Caiff ei dderbyn yn eang fod lefel y môr yn codi oherwydd bod y llenni iâ enfawr sy'n gorchuddio'r Ynys Las ac Antarctica yn toddi, ond mae papur sydd newydd ei gyhoeddi yn The Journal of Geophysical Research: Oceans, ( http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/2017JC013109/abstract ), gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â phrifysgolion Harvard ac Oregon State yn yr Unol Daleithiau, a phrifysgol McGill yng Nghanada, yn dangos y bydd hynny'n cael effaith lawer iawn mwy na dim ond achosi newid yn lefelau dŵr y môr. Gallai gael effaith bellgyrhaeddol ar hinsawdd y byd. Mae'r canlyniadau newydd yn dangos nad yw lefel y môr yn codi i’r un graddau ym mhob man ar draws y ddaear wrth i'r llenni iâ doddi. Mewn gwirionedd, mae'r newid yn lefel y môr wrth i'r llenni iâ doddi yn amrywio yn ôl ardal, yn enwedig yn agos at y llenni iâ sy'n encilio. Mae'r canlyniadau newydd, a gafwyd yn defnyddio model rhifiadol o'r llanw yn fyd-eang, yn dangos y bydd y newidiadau i'r llanw oherwydd cwymp y llen iâ a'r newidiadau yn lefel y môr sy'n gysylltiedig â hynny yn amrywiol iawn ac yn effeithio ar nifer o wahanol brosesau pwysig.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2017
Ymchwil o Fangor yn cael ei chyflwyno yn y brif gynhadledd ar ddelweddu data
Bu'r Athro Jonathan C. Roberts a Dr Panagiotis (Panos) Ritsos, o'r Ysgol Cyfrifiadureg, yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn yr IEEE Visualization (VIS2017) Conference, a gynhaliwyd yn Phoenix, Arizona, UDA y mis yma.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017
Arddangos gwaith PhD cyfrifiadureg mewn sioe gelf ym Mharis
Dyma ddigwyddiad anarferol ym maes cyfrifiadureg. Mae Zainab Ali Abood o Irac wedi cwblhau PhD ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar dan oruchwyliaeth Dr Franck Vidal a bydd ei gwaith ar Gelf Esgblygiadol yn cael ei arddangos mewn oriel gelf ym Mharis (Gallerie Louchard, http://www.galerielouchard.paris/ ).
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017
Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod agored ar y Dydd Sadwrn, 4 o Dachwedd fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Thema’r dydd yw ‘Anifeiliaid mewn Mytholeg Cymreig’. Gan ddefnyddio sbesimenau o’r Amgueddfa fel ysbrydoliaeth, cynhelir gweithdai ar ddarlunio o’r sbesimenau i greu gludweithiau, argraffiadau, testun, a darluniadau dychmygol hefo’r arlunydd Jŵls Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017