Newyddion: Ionawr 2018
We opened up all our data on coral reefs – more scientists should do the same to protect habitats
Dyma erthygl yn Saesneg gan Adele Heenan o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ac Ivor D Williams o'r National Oceanographic and Atmospheric Administration yr UDA sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2018
Astudiaeth yn datgelu bod gwyntyll môr a rhywogaethau eraill yn cymryd amser hir i ddod dros darfu arnynt
Mae tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn darogan y gall gwyntyll môr pinc, cwrelau Ross a chwistrellau môr gwyn gymryd hyd at 20 mlynedd i ddod atynt eu hunain ar ôl i dreillio am gregyn bylchog gael ei atal ar ran o wely'r môr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2018
Tystiolaeth newydd o newid hinsawdd yng ngogledd ddwyrain Affrica yn cefnogi dyddiad cynnar ymwasgariad cyntaf bodau dynol allan o’r cyfandir
Mae tarddiad gwreiddiol bodau dynol, homo sapiens, a'i ymfudiadau dilynol, yn ffynhonnell gyson o drafod ymysg ymchwilwyr y maes. Y consensws a sefydlwyd eisoes yw ein bod wedi tarddu o gyfandir Affrica, nepell o Ddyffryn Hollt Dwyrain Affrica, ac yna wedi ymfudo o’r cyfandir o ddeutu 70,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond mae llu o ymchwilwyr yn cynnig yn wahanol; gydag ambell i dystiolaeth enetigol yn cynnig dyddiad llawer yn gynharach – sef tua 120,000 i 130,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond o fewn y maes, nid oes fawr o dystiolaeth uniongyrchol o’r hinsawdd yn y rhan yma o’r byd dros y cyfnodau hyn; ond mae cydnabyddiaeth eang fod hinsawdd yn effeithio ar batrymau ymfudo bodau dynol. Mae ymchwil newydd wedi cael ei gyhoeddi yn Scientific Reports sydd a’i nod o ddatrys y diffyg gwybodaeth hinsoddol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018
Mae datblygiadau diweddar mewn deall gallu cwrel i wrthsefyll tymheredd yn wyneb y môr yn elfen hanfodol o ymdrechion byd-eang i ddiogelu riffiau cwrel.
Mae adolygiad o’r llenyddiaeth yn pwyntio tuag at bwysigrwydd lleihau allyriadau carbon deuocsid byd-eang, yn ogystal â gwarchod neu gynyddu dulliau gwrthsefyll yn wyneb achosion cynyddol o effeithiau newid hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018
Hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE i Brifysgol Bangor
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw [18.01.18] y bydd cyfleuster gwyddonol heb ei ail yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE. Bydd y cyllid yn helpu i greu'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a fydd yn golygu bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ynghylch sut y mae modd defnyddio deunyddiau naturiol o fewn cynhyrchion a phrosesau diwydiannol. Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r Brifysgol i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fawr gyda busnesau byd eang mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, fferylliaeth, ynni a gweithgynhyrchu.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018
Ffrindiau’n casglu degau o filoedd i gynorthwyo Dr Sophie Williams i ddychwel adref
Gŵyl jin, taith noddedig i fyny’r Wyddfa, cardiau Nadolig wedi’u dylunio’n arbennig a digwyddiad eillio gwallt: dim ond rhai o’r digwyddiadau codi arian sydd wedi eu cynnal gan gyfeillion a theulu Sophie Williams yn ystod y misoedd diwethaf. Mae angen yr arian er mwyn addasu cartref Sophie i’w galluogi i symud o gwmpas y tŷ mewn cadair olwyn ac i roi lle i’r gofalwyr sydd eu hangen arni 24 awr y dydd. Dioddefodd Sophie, a oedd yn ddarlithwraig ym Mhrifysgol Bangor, niwed i’w hymennydd tra ar waith maes yn Tsieina yn 2015. Mae ganddi gyfyngiad ar ei symudiadau o’i gwddf i lawr ac mae hi’n ddibynnol ar beiriant anadlu. Mae disgwyl i’r gwaith i’w chartref yn Sling, ger Tregarth, gostio oddeutu £60,000.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018
Is fishing with electricity less destructive than digging up the seabed with beam trawlers?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Michel Kaiser o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2018
Y darlledwr Miranda Krestovnikoff yn cyflwyno 'A whistle-stop tour around the coast'
Bydd y cyflwynydd teledu Miranda Krestovnikoff yn rhoi ‘A whistle-stop tour around the coast’ mewn darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 31 Ionawr am 5.30pm yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio. Mae’r ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau. Gellir archebu'r rhain drwy wefan Pontio neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2018
Gwyddonwyr yn galw am weithredu i fynd i'r afael â bygythiad rhywogaeth coed ymledol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang
n ôl ymchwil newydd ar y cyd rhwng Landcare Research yn Seland Newydd, Prifysgolion Caergrawnt a Denver, a Phrifysgol Bangor, mae coeden ymwthiol sy'n frodorol i Awstralia yn awr yn achosi bygythiad difrifol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang. Plannwyd y rhywogaeth hon, Pittosporum undulatum , a elwir yn oren ffug yn lleol, mewn gardd fotaneg yn y Blue Mountains yn Jamaica yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel mae'r enw lleol yn ei awgrymu, mae gan y goeden hon, sy'n tyfu'n gyflym a chyda dail sgleiniog, ffrwyth oren llachar yn cynnwys llawer o hadau bychain wedi'u gorchuddio â haen ludiog siwgwraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2018