Newyddion: Ebrill 2018
Mae riffiau sy'n profi tymheredd amrywiol yn aml iawn yn fwy tebygol o wrthsefyll gwynnu cwrel
Wrth i wyddonwyr a chadwraethwyr frysio i weithio allan y ffordd orau i warchod riffiau cwrel y byd, mae astudiaeth newydd yn datgelu pam y mae'n ymddangos bod rhai riffiau yn gallu gwrthsefyll gwynnu i'r cwrel yn well yn ystod achosion o gynhesu'r môr, ac maent yn galw am gael casglu data cydraniad uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018
How can we communicate all that nature does for us?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Julia P G Jones, sydd yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2018
Aur i godwyr pwysau Prifysgol Bangor
Bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd eu lle ar y podiwm ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prifysgolion a Cholegau Prydain a gynhaliwyd ym Mhrifysgol St Mary’s yn Twickenham yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019. Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Prif gadwyn coffi yn dangos diddordeb mewn caead cwpan wedi ei ailgylchu
Gyda 2.5 biliwn o gwpanau coffi ‘cymryd-allan’ yn cael eu defnyddio’n flynyddol ym Mhrydain, mae bron cynifer o gaeadau plastig yn cael eu taflu allan. Mae gwyddonwyr yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu plastig newydd y bydd yn bosib ei gompostio, ac a fydd yn gwrthsefyll hylifau poeth ac y gellir ei fowldio i greu’r caeadau cwpanau coffi.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Cadwraeth trwy grefydd? Gwyddonwyr yn cadarnhau bod gan safleoedd naturiol cysegredig fantais o ran bioamrywiaeth
Mae safleoedd naturiol cysegredig i'w canfod ym mhob cwr o'r byd. Credir eu bod yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth ond tan yn ddiweddar ychydig o ymchwil systematig a gafwyd i'r honiad hwn. Ond yn awr mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Biological Conservation gan dîm rhyngwladol ac amlddisgyblaeth dan arweiniad Prifysgol Ioannina, ac yn cynnwys Prifysgol Bangor, wedi dangos bod gan safleoedd naturiol cysegredig fudd cadwraethol nodedig. Dewisodd ymchwilwyr y project, a elwir yn THALIS-SAGE, gynnal yr astudiaeth yn rhanbarth Epirus yng ngogledd orllewin gwlad Groeg, sy'n gartref i nifer o lwyni cysegredig a ddiogelwyd am ganrifoedd gan grefydd.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Pedwar Cymrawd Newydd yn Cael eu penodi o Brifysgol Bangor
Mae’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi pedwar Cymrawd ewydd o Brifysgol Bangor ymhlith y Cymrodyr newydd sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadlu brwd i ymuno. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2018
Llwyddo wrth olchi: Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.
Mae’r system a fydd yn cael ei gosod yng Nghastell Penrhyn yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â phrosiect Dŵr Uisce , cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn. Bydd y dŵr a gyflenwir i’r gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o’r dŵr gwastraff. Mae’r dechneg yn golygu defnyddio dŵr poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50°C, i ragboethi’r dŵr prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i’r broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu’r dŵr poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Supercontinent formation may be linked to a cycle of supertides
Dyma erthygl yn Saesneg gan Mattias Green , o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018
Llwyddiannau Myfyrwyr Bangor gyda Heriau LifeStart
Mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor wedi llwyddo gyda heriau ‘ LifeStart Challenges ’ yn ddiweddar, gan ennill symiau sylweddol o arian a chyfleoedd i gael profiadau gwerthfawr. Mae Prifysgol Bangor University yn un o ddim ond 12 prifysgol sydd yn cymryd rhan yn LifeStart - safle gwe sydd wedi ei ddatblygu gan Virgin StartUp. Nod LifeStart yw bod o gymorth i fyfyrwyr ganfod eu harbenigeddau a llwyddo yn eu gyrfa ac yn ariannol a hynny drwy ddysgu mwy am sgiliau menter allweddol drwy gymryd rhan mewn heriau â gwobrau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018