Academydd ym Mangor yn gyd awdur erthygl a ddewiswyd fel un o’r papurau cyllid corfforaethol gorau
Yr erthygl “Who disciplines bank managers?" gyda Dr Klaus Schaeck o Ysgol Busnes Bangor yn un o’r cyd awduron yw’r erthygl flaen mewn rhith rifyn o’r papurau llywodraethu corfforaethol gorau a gyhoeddwyd yn y Review of Finance, un o’r pum cyfnodolyn cyllid gorau.
Dewisodd golygyddion Review of Finance naw papur gan awduron blaenllaw mewn llywodraethu corfforaethol er mwyn ei gwneud yn haws i ddarllenwyr gael gafael ar y cyhoeddiadau hyn.
Yn yr erthygl hon mae Dr Schaeck a’i gyd awduron Martin Cihak, Andrea Maechler a Stephanie Stolz yn archwilio gallu cyfranwyr i fanciau, cyfranddalwyr a rheolyddion i ddylanwadu ar fanciau i gymryd risg trwy ddiswyddo swyddogion gweithredol. Mae’r astudiaeth yn dangos bod diswyddo swyddogion gweithredol yn digwydd yn amlach mewn banciau sy'n cymryd risg, a'r cyfranddalwyr yn bennaf sy'n dechrau’r broses o drosiant gweithredwyr. Mewn dadansoddiad pellach, dengys yr awduron nad yw risg, colledion banciau na phroffidioldeb yn gwella ar ôl diswyddo swyddog gweithredol.
Mae’r rhith rifyn ar gael yn y cyswllt hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2012