Arbenigwr mewn Ieithyddiaeth Fforensig yn graddio o Ysgol y Gyfraith
Mae’r myfyrwyr a raddiodd eleni yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys arbenigwr byd-enwog mewn ieithyddiaeth fforensig. Dr John Olsson, sefydlydd y Sefydliad Ieithyddiaeth Fforensig sydd wedi graddio o Ysgol y Gyfraith, yn ysgwyd llaw gyda Mark Brown, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Caer a Gogledd Cymru
Ym 1995, sefydlodd Dr John Olsson, Cysylltai Academaidd yn Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ym Mangor, y Sefydliad Ieithyddiaeth Fforensig, sef y labordy ieithyddiaeth fforensig pwrpasol cyntaf yn y byd ar gyfer dadansoddi’r iaith a ddefnyddir mewn honiadau a phrofion troseddol a sifil.
Awduraeth dogfennau di-enw, megis llythyrau ffug, bygythiadau i lygru cynhyrchion a gorchmynion i dalu yn dilyn herwgipio a gofynion eraill am bridwerth yw ei brif arbenigedd. Ar ben hynny, mae’n arbenigwr yn yr agweddau ieithyddol ar ddatrys codau. Oherwydd yr arbenigedd hwn, galwyd arno i roi tystiolaeth mewn gwledydd mor bell ag UDA, Awstralia, Canada a Singapôr.
Ddydd Llun 16 Gorffennaf, roedd yn un o 95 o fyfyrwyr i raddio o Ysgol y Gyfraith, Bangor, gan ennill gradd LLB ddosbarth cyntaf yn y Gyfraith.
“Os ydych o ddifrif ynglŷn â’ch astudiaethau, ond yn dal yn awyddus i ‘gael bywyd’, Bangor yw’r lle i dos,” meddai Dr Olsson, sy’n dod yn wreiddiol o Bowys yn y Canolbarth. “Rhaid mai hon yw’r Brifysgol fwyaf cyfeillgar yn y DU – mae hyn mor bwysig i fyfyrwyr ifainc sy’n gadael y nyth am y tro cyntaf. Mae’r darlithwyr yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, a cheir cyfeillgarwch mawr ymysg myfyrwyr o bob oed, rhyw a gwlad.”
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012