Athro ym Mangor yn ennill gwobr i archwilio achub banciau
Mae’r Europlace Institute of Finance (EIF) ym Mharis wedi dyfarnu grant ymchwil o 10,000 Ewro i Athro Bancio Empirig ym Mangor, Dr Klaus Schaeck, i edrych ar sut mae pecynnau cyllid i achub banciau mewn argyfwng yn effeithio ar gyfraddau llog benthyciadau ac ernesau. Prif syniad y gwaith hwn, a wneir ar y cyd gyda Cesar Calderon o’r World Bank yn Washington, D.C., yw gweld a yw’r symiau mawr i achub banciau a roddwyd yn y blynyddoedd diwethaf trwy gymorth i uno, ail-gyfalafu a gwladoli banciau yn sbarduno canlyniadau anfwriadol yn ymddygiad banciau gan eu hannog i ymddwyn yn fwy ymosodol mewn marchnadoedd ernes a benthyg a allai arwain at broblemau bancio yn y dyfodol.
Ar ôl cael y newyddion da o Baris, dywedodd yr Athro Schaeck, “Er gwaetha’r ffaith bod y ddadl am yr effeithiau cystadleuol sy’n deillio o’r cyllid i achub banciau wedi cael sylw gwleidyddol (er enghraifft gan yr Independent Commission on Banking yma yn y DU), nid yw’r byd academaidd wedi cyfrannu llawer hyd yma at y drafodaeth bwysig hon. Bydd grant yr EIF yn golygu y gellir edrych yn fanwl ar gwestiynau sy’n effeithio ar y gymdeithas i gyd. Er enghraifft, nid yw’n glir o gwbl a ellir cyfiawnhau pryderon y llunwyr polisïau bod cyllid i achub banciau yn lleihau cystadleuaeth rhwng banciau. Neu i’r gwrthwyneb, os yw’r syniad bod pecyn achub ar gael os bydd banc mewn trafferth yn symbylu’r banciau i gystadlu hyd yn oed yn ffyrnicach”.
Mae’r cwestiwn o sut mae cyllid i achub banciau yn effeithio ar gystadleuaeth yn bwysig iawn oherwydd bod goblygiadau i brisio cynnyrch banciau ar gyllido cwmnïau, yn arbennig cwmnïau bach a chanolig sy'n dibynnu'n helaeth ar gyllid gan fanciau. Mae’r Athro Schaeck a’i gydawdur yn disgwyl y bydd eu hymchwil yn cynnig golwg newydd ar ffyrdd o wella cynllunio pecynnau cyllid i achub banciau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012