Bangor yn croesawu enillydd ysgoloriaeth Chevening
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi croesawu myfyriwr Chevening i’r ysgol am y tro cyntaf, Damian Etone o Gamerŵn.
Mae Damian, sy’n fyfyriwr ar y cwrs LLM Cyfraith Droseddol a Hawliau Dynol Rhyngwladol, yn ymuno â chyn-fyfyriwr Chevening, sef yr Athro Suzannah Linton, sy’n Athro Cyfraith Ryngwladol ac yn gyfarwyddwr y Ganolfan Gyfraith Ryngwladol yn yr ysgol.
Graddiodd Damian ym Mhrifysgol Buea yng Nghamerŵn gydag LLB yn 2011. Camerŵn yw un o’r ychydig wledydd yn y byd gyda chyfuniad o gyfraith gwlad a chyfraith sifil. Tra roedd yn fyfyriwr israddedig, cafodd fwynhad mawr o astudio cyfraith ryngwladol (cyhoeddus a phreifat) a hawliau dynol a bu’n llywydd cymdeithas y gyfraith. Mae Damian eisiau bod yn fargyfreithiwr sy’n arbenigo mewn hawliau dynol oherwydd iddo “gael ei fagu yng nghanol troseddau yn erbyn hawliau dynol, ac rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr fy mod yn gallu helpu fy ngwlad”.
Sefydlwyd ysgoloriaeth Chevening gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i wobrwyo myfyrwyr rhyngwladol sy’n dangos Ysgolheigion Chevening presennol a gorffennol: yr Athro Linton yn croesawu Damian i'r Ysgolpotensial i fod yn arweinwyr a phenderfynwyr y dyfodol, ac mae llawer o bobl yn cystadlu am yr ysgoloriaeth. Eleni, ymgeisiodd 300 o bobl o Gamerŵn am yr ysgoloriaeth a dim ond deg a roddwyd ar y rhestr fer. Roedd Damian yn un o dri myfyriwr o Gamerŵn i ennill yr ysgoloriaeth; mae’r ddau arall yn astudio yn yr Ysgol Feddygaeth Drofannol yn Lerpwl ac yn yr adran Astudiaethau Datblygu ym Manceinion. “Mae’r Swyddfa Dramor yn trefnu croeso ffurfiol i bawb ohonom yn Warwick fis nesaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod y myfyrwyr eraill sy’n dod o bob cwr o’r byd”, meddai Damian.
Mae Damian wedi mwynhau’r croeso cynnes mae wedi ei gael gan y brifysgol a chan bobl Fangor ac mae harddwch yr ardal a’r adeiladau hanesyddol ar y campws wedi gwneud argraff fawr arno. Erbyn hyn, mae ym mhedwaredd wythnos ei gwrs ym maes cyfraith ryngwladol gyhoeddus a chyfraith ryngwladol hawliau dynol ac mae’n mwynhau cynnwys heriol y rhaglen a’r modiwlau sydd ar gael. “Mae’r cwrs yn fy nghyflwyno i lawer iawn o bethau newydd, ac mae’n heriol ac yn agor fy llygaid i gymhlethdod y pynciau. Mae’n rhaid wrth waith caled i ddeall y meysydd yn iawn. Mae hefyd yn heriol gan fod rhaid i mi ddarllen llawer iawn o lyfrau a chyfnodolion, ond rwyf hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio technoleg fodern gan fod y darlithydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac yn rhoi rhaglenni dogfen a darlithoedd i ni eu gwylio ar-lein. Mae Damian yn mwynhau’r amgylchedd a’r dull dysgu yn y dosbarth ac mae arbenigedd a gallu staff Bangor wedi gwneud argraff fawr arno. Mae’r llyfrgell a’r gwasanaethau cefnogi eraill a gynigir gan y brifysgol hefyd wedi gwneud argraff arno.
Ers iddo ddod i Fangor, mae Damian wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn dau ddigwyddiad unigryw. Y cyntaf oedd y cwrs cyfraith gyflogaeth; yr ail oedd gwasanaeth diolchgarwch arbennig yng nghadeirlan Bangor ar ddechrau blwyddyn gyfreithiol y DU, ddydd Sul, 14 Hydref 2012. “Roedd y cwrs cyfraith gyflogaeth a drefnwyd gan Ganolfan Cyfraith Ryngwladol Bangor a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn agoriad llygaid i mi am wahaniaethu ac anghydraddoldeb ym maes cyflogaeth, a’r amrywiol fathau o wahaniaethu na wyddwn ddim byd amdanynt cyn hynny”, dywedodd Damian. Bydd Damian, ynghyd ag wyth o’i gyd-fyfyrwyr yn dilyn y cwrs unwaith yr wythnos am chwe mis. Dywedodd Damian hyn am y gwasanaeth diolchgarwch: “roedd y gwasanaeth yn y gadeirlan yn wefreiddiol. Cefais weld gweithwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw y DU yn eu dillad ffurfiol yn cerdded trwy ddinas Bangor, ac yna yn yr eglwys hanesyddol. Roedd Arglwyd Brif Ustus y DU yno, ynghyd â llawer o farnwyr eraill ac arweinwyr eraill ym maes y gyfraith. Gwelais Esgob Bangor hefyd a chawsom sgwrs fer!”.
“Dim ond ail flwyddyn y rhaglenni cyfraith ryngwladol yw hon, ac rwy’n falch iawn o groesawu’r myfyriwr cyntaf erioed i ddod i Ysgol y Gyfraith trwy gynllun ysgoloriaeth Chevening”, dywedodd yr Athro Linton, a astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Bryste trwy ysgoloriaeth gan lywodraeth Prydain yn y 1980au. “Rwy’n aelod o gymdeithas cyn-fyfyrwyr Chevening Maleisia, a dros y blynyddoedd rydym wedi helpu i baratoi llawer o fyfyrwyr Asiaidd at ymgeisio am yr ysgoloriaeth. Mae hon yn rhaglen wych sy’n gwneud gwahaniaeth i wledydd a bywydau pobl. Mae gen i atgofion da iawn am yr amser y gofynnwyd i mi gan Uwch Gomisiynydd Prydain yn Nhili, yn Nwyrain Timor, i roi cyflwyniad i ddeiliaid ysgoloriaeth Chevening am fy mhrofiad o astudio yn y DU. Roedd y sefyllfa’n parhau i fod yn anodd ac yn ansefydlog ar ôl y trais yno ym 1999, ond roedd ysgoloriaeth Chevening yn rhoi gobaith a chyfle i bobl ifanc Dwyrain Timor. Mae pob un o gyn-ddeiliaid yr ysgoloriaeth Chevening rwy’n eu hadnabod wedi mynd ymlaen i wneud gwaith pwysig a rhyfeddol, ac rwy’n hyderus y bydd Damian yn gwneud hynny hefyd. ”
Am ragor o wybodaeth am gynllun ysgoloriaeth Chevening, ewch i'r wefan.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2012