Cam ar y ffordd tuag at frechlyn mwy effeithiol rhag diciâu (TB)
Mae'r diciâu'n lladd mwy o bobl nag unrhyw haint arall ac mae'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau'n gynyddol. Dylai canlyniadau gwaith ar y cyd rhwng ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, dan arweiniad Yr Athro Mark Baird a Dr Jum'a Al Dulayymi, a Phrifysgol Southampton, dan arweiniad Dr Salah Mansour, a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Proceedings of the National Academy of Sciences USA arwain datblygiadau newydd mewn brechlyn rhag y diciâu drwy gynllunio therapïau newydd wedi'u seilio ar lipidau.
Gan weithio gyda lipidau synthetig a ddatblygwyd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor, mae ymchwilwyr yn Southampton wedi disgrifio targedau newydd posib a allai ddarparu'r genhedlaeth nesaf o frechlynnau rhag y diciâu.
Meddai Dr Salah Mansour o Southampton, prif awdur yr astudiaeth: "Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau ar frechlynnau rhag diciâu wedi canolbwyntio ar godi math o gell imiwn warchodol, a elwir yn gelloedd-T, yn erbyn protinau'n deillio o'r bacteria. Dangosodd yr astudiaeth bod lipidau synthetig unigryw sy'n gysylltiedig â rhai yng nghellfur Mycobacterium tuberculosis, yn cael eu targedu'n ddethol gan gelloedd-T; mae gan ein canlyniadau oblygiadau therapiwtig i bob claf."
Meddai Dr Juma'a Al Dulayymi, Ysgol Cemeg, Prifysgol Bangor: "Mae hwn yn ganlyniad cyffrous iawn cydweithio rhwng cemegwyr organig ac imiwnolegwyr a all roi cyfle gwirioneddol i wella gwarchodaeth rhag y diciâu."
Gan Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor y mae'r unig grŵp sydd wedi cynhyrchu'r lipidau synthetig a ddefnyddir yn y broses hon.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2017