Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Coroni Bangor yn bencampwyr Cymru mewn Cystadleuaeth Llys Barn Ffug

Am y tro cyntaf mae tîm o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ennill y Gystadleuaeth Llys Barn Ffug flynyddol Gymreig. 

Llwyddodd Aaron Clegg ac Adam Gulliver, y ddau'n fyfyrwyr ar y rhaglen radd LLB, i drechu cystadleuaeth galed o du Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a'r Brifysgol Agored i gyrraedd y rownd derfynol. Yno fe wnaethant wynebu Prifysgol Aberystwyth a llwyddo i gipio'r wobr hanesyddol. Aaron (chwith) ac Adam yn cystadluAaron (chwith) ac Adam yn cystadlu

Y mater dan sylw oedd achos o dreisio a oedd yn cynnwys apêl a gwrth apêl. Roedd yr apêl yn ymwneud â ph'un a oedd yr achwynwyr wedi cael ei thwyllo ai peidio ynglŷn â 'natur neu ddiben' y weithred yn unol ag adran 76(2) (a) Deddf Troseddau Rhywiol 2003, ac roedd yr wrth apêl yn edrych ar p'un y gellid ystyried a oedd rhywun a oedd yn cymryd arno ei fod yn seren chwaraeon enwog yn 'adnabyddus yn bersonol' i'r achwynydd yn unol ag adran 76(2) (b) Deddf Troseddau Rhywiol 2003.

Roedd Adam ac Aaron, y ddau'n 21 oed, yn hynod falch o ennill ac roeddent yn ddiolchgar iawn i'r staff ym Mangor a oedd wedi eu helpu ar eu ffordd i'r fuddugoliaeth.

"Hwn oedd fy mhrofiad allanol cyntaf o gymryd rhan mewn llys barn ffug. Roedd yn gyfle gwych ac fe wnes i fwynhau'r cyfan yn fawr iawn, ac yn arbennig ennill," meddai Aaron, o Oldham.  "Roedd y beirniaid yn eithriadol gyfeillgar a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu harweiniad ar y diwrnod. Hoffwn ddiolch hefyd i Dr Yvonne McDermott a Stephen Clear am eu cefnogaeth yn ein paratoi ym Mangor ac, wrth gwrs, i Adam, fy mhartner yn y gystadleuaeth. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd y gyfraith i gymryd rhan yn y gweithgareddau yma ar bob cyfri."

Ychwanegodd Adam, o Whiston yn Knowsley: "Roedd Aaron a finnau wedi'n syfrdanu pan gyhoeddwyd mai ni oedd yr enillwyr – mae'n sicr yn ddiwrnod a fydd yn aros yn hir yn ein cof. Roedd yn gyfle gwych i gymysgu gydag ymarferwyr profiadol a roddodd gymaint o sylwadau manwl i ni ar ein sgiliau. 

“Hoffwn ddiolch i bawb ym Mangor sydd wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau dadleuaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn cynnwys Dr Yvonne McDermott, Dr Evelyne Schmid a Stephen Clear. Hoffwn ddiolch hefyd i'm partner yn y ffug lys barn, Aaron Clegg, am ei waith caled a'i ymroddiad."Aaron Clegg (chwith) ac Adam Gulliver, pencampwyr Cystadleuaeth Llys Barn Ffug Cymru 2014, a noddir gan LexisNexis.Aaron Clegg (chwith) ac Adam Gulliver, pencampwyr Cystadleuaeth Llys Barn Ffug Cymru 2014, a noddir gan LexisNexis.

Yn y Gystadleuaeth Llys Barn Ffug Gymreig a noddir gan LexisNexis, mae timau o ysgolion y gyfraith yng Nghymru yn cystadlu yn erbyn ei gilydd gan ymdrin ag achosion llys ffug. Mae'r gystadleuaeth yn awr yn ei chweched flwyddyn, a chynhaliwyd y rownd derfynol eleni ym Mhrifysgol y Gyfraith yng Nghaer gan enillwyr 2013, y Brifysgol Agored.

Y fuddugoliaeth hon yw'r ddiweddaraf mewn nifer fawr o lwyddiannau mewn llysoedd barn ffug sydd wedi dod i ran myfyrwyr Ysgol y Gyfraith ym Mangor. Yn 2013 tîm o Fangor fu'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth fyd-enwog, Telders International Law Moot Court, gan lwyddo i fynd ymlaen i'r rownd gyn-derfynol. Yr un flwyddyn, daeth Bangor hefyd yr ysgol y gyfraith gyntaf o Gymru i gael gwahoddiad i gymryd rhan mewn achosion ffug gerbron y Goruchaf Lys yn Llundain. Yn 2014 yn unig bydd Bangor yn cynnal wyth cystadleuaeth fewnol i'r ysgol, cymryd rhan mewn pedair cystadleuaeth genedlaethol, a dychwelyd i gystadleuaeth Telders. 

"Mae llwyddiant Adam ac Aaron yn tystio i benderfyniad ac agwedd broffesiynol ein hysgol i israddedigion," meddai Stephen Clear, Cydlynydd Sgiliau Llys Barn Ffug yn Ysgol y Gyfraith Bangor. "Mae cyflogwyr yn disgwyl yn gynyddol am weld tystiolaeth o gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath ar CV darpar gyfreithwyr. Mae Adam ac Aaron wedi ymateb yn gadarnhaol i'r her hon drwy ffurfio'r trydydd grŵp myfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith, y Gymdeithas Adfocatiaeth Gyfreithiol. 

"Nid yn unig maent wedi llwyddo i gyflawni eu hastudiaethau a chymryd rhan yn y ffug lysoedd barn hynod gystadleuol yma, ond maent hefyd, drwy'r Gymdeithas Adfocatiaeth Gyfreithiol, wedi cyflwyno mwy o gystadlaethau mewnol nag erioed o'r blaen yn hanes Ysgol y Gyfraith. Mae Aaron ac Adam wedi cystadlu mewn nifer o'r cystadlaethau yma ac wedi cael sylwadau rhyfeddol gan rai o brif farnwyr y proffesiwn cyfreithiol, gan ddod i blith y grwpiau uchaf yn y wlad yn gyson. Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn eu llongyfarch yn wresog ar eu llwyddiant a da gweld y tîm yn mynd o nerth i nerth!"

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2014

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ôl-raddedigion
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Polisïau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor