Cyfoethogi’r profiad addysgol: myfyrwyr y Gyfraith Bangor yn cael profiad o waith Heddlu Gogledd Cymru
Bob blwyddyn mae myfyrwyr ôl-radd ar gwrs Cyfraith Hawliau Dynol Rhyngwladol yr Athro Suzannah Linton, a myfyrwyr eraill ar y rhaglen Meistr Cyfraith Ryngwladol, yn mynd ar ymweliad maes lle maent yn cael cyfle i weld gweithwyr proffesiynol ym maes gweithredu'r gyfraith yn cyflawni eu dyletswyddau, a gweld y theori'n dod 'yn fyw'. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, er enghraifft, maent wedi ymweld â Chanolfan Hyfforddi'r Heddlu ger Wrecsam. Uwcharolygydd Peter Newton yn croesawu yr ymwelwyr o Fangor
Yn ddiweddarach y mis hwn, bu'r Athro Linton ynghyd â'r Uwch Ddarlithydd Dr Stefan Machura, ei myfyrwyr ac eraill sy'n astudio'r Gyfraith a Throseddeg, yn westeion yr Uwcharolygydd Peter Newton, Uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru, ym mhencadlys yr Heddlu yng Nghaernarfon.
Roedd yr Uwcharolygydd Newton yn bresennol drwy'r amser, a siaradodd am drefn lywodraethu'r Heddlu, drwy'r Swyddfa Gartref, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, a'r Prif Gwnstabliaid. Hefyd fe wnaeth drafod swydd Cwnstabl, Swyddogion Heddlu Cymunedol Cefnogol, ac asiantaethau cenedlaethol eraill sy'n rhan o UK Law Enforcement PLC. Bu'n sôn am y gwahanol ffyrdd mae'r Heddlu'n rheoli troseddau a'u hatal, ac effaith yr athrawiaeth hawliau dynol.
Cafwyd golwg gyffredinol ar blismona yng Ngogledd Cymru, a sut mae'r orsaf yng Nghaernarfon yn gweithredu, gan y Ditectif Uwch Arolygydd Iestyn Davies. Mae ganddo ef lawer iawn o brofiad gyda'r CID yn delio â throseddau o bwys, yn cynnwys llofruddiaethau, ar draws rhanbarth y llu. Siaradodd hefyd am swyddogaeth bwysig pennu tasgau a chydlynu. CDI Iestyn Davis yn rhoi trosolwg o heddlu yng Ngogledd Cymru
Fe wnaeth y Rhingyll Gareth Crowe, sy'n hyfforddwr tactegau amddiffynnol, siarad am Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, yn cynnwys defnyddio grym wrth arestio pobl, a beth y gall dinasyddion cyffredin ei wneud i'w hamddiffyn eu hunain, er enghraifft, os yw rhywun wedi dod i mewn i'w cartref.
Gan yr Arolygydd Neil Thomas, Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd, sy'n cynnwys Bangor, cafwyd golwg gyffredinol ar blismona ym Mangor. Bu'n sôn am amcanion yr Heddlu, dulliau plismona, a materion yn uniongyrchol gysylltiedig â myfyrwyr a chymdeithas gynyddol amlhiliol. Yn ogystal, bu'n sôn wrth y grŵp am effeithiau diod/cyffuriau a diweithdra, gostyngiadau mewn troseddu a gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned, yn cynnwys y Brifysgol.
Yn ôl yr Athro Linton, "Roeddem ni - yn staff a myfyrwyr - wrth ein bodd yn cael gwybodaeth uniongyrchol fel hyn am blismona cyfredol, a gallu trafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â rhanbarth Gogledd Cymru a thu hwnt gyda'r Uwcharolygydd Newton a'i dîm. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr iawn ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar iddynt. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fwy o gysylltiad rhwng Ysgol y Gyfraith yma ym Mangor a Heddlu Gogledd Cymru, gan ddechrau gyda darlith gyhoeddus y tymor nesaf."
Roedd y myfyrwyr yn frwdfrydig iawn ynglŷn â'r profiad:Sarsiant Gareth Crowe yn wynebu holiad gan fyfyrwyr
"Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn i fyfyrwyr y gyfraith ddeall yr agweddau ymarferol ar blismona. Roedd yr ymweliad â gorsaf yr heddlu yng Nghaernarfon yn brofiad cyfoethog o ran gweld sut y delir â throseddau a sut mae'r gyfraith yn cael ei gweithredu gan yr heddlu. Byddwn yn ei argymell i unrhyw fyfyriwr."
"Roeddwn i'n gweld yr ymweliad â'r Heddlu'n un diddorol iawn oherwydd cawsom gyfle i weld sut maent yn gweithio a beth maent yn ei wneud i'r gymuned. Yr hyn wnes i ei hoffi fwyaf oedd gweld ymrwymiad y swyddogion i'w gwaith a'r balchder ar eu hwynebau wrth siarad am gyflawni eu hamcanion. Dwi'n falch iawn i mi gael y cyfle yma."
“Roedd y daith yn agoriad llygad, ac fe wnes i ddysgu llawer o bethau nad oeddwn yn ei wybod cynt. Roeddwn yn teimlo'n dawelach fy meddwl ar ôl cyfarfod â'r swyddogion, ac yn teimlo'n ddiogelach ym Mangor o wybod beth mae'r Heddlu'n ei wneud i'n gwarchod rhag troseddwyr. Roedd y drafodaeth ar amddiffyn eich hun yn un ddefnyddiol iawn. Nawr, dwi'n gwybod bod yna dri dewis pan mae rhywun yn dod ar draws lleidr yn ei gartref - rhedeg i ffwrdd, ymladd yn ôl neu rewi - ac mai'r dewis gwaethaf yw rhewi!"
"Roedd hon yn ffordd wirioneddol ddiddorol a defnyddiol i ddeall a gweld y gyfraith ar waith a sylwi ar waith ymarferol yr Heddlu. Roedd y cyflwyniadau'n arbennig o ddiddorol oherwydd fe wnaethant roi i ni gefndir a hanes sefydliadol yr heddlu, polisi ac egwyddorion sylfaenol plismona, ac enghreifftiau pendant. Roedd y swyddogion yn groesawus iawn ac yn amyneddgar iawn wrth ateb ein cwestiynau niferus."
"Hwn oedd y tro cyntaf i mi erioed gyfarfod â'r Heddlu. Roedd yn brofiad buddiol iawn ac yn agoriad llygad i siarad â nhw a gwrando ar eu safbwyntiau.”
"Roedd yn brofiad gwych! Ychydig cyn yr ymweliad, cawsom ddosbarth lle gwnaethom ddysgu ynghylch y gyfraith ar ddefnyddio grym wrth blismona, ac fe wnaethom orffen y diwrnod yn gwrando ar ochr yr Heddlu o'r stori!"
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2013