Cyfres Gyntaf ‘Legal World’ yn Llwyddiant Ysgubol
Yn ystod ail semester blwyddyn academaidd 2014-15, lansiodd tîm o fyfyrwyr y Gyfraith Gyfres ‘Legal World’ am y tro cyntaf. Dan oruchwyliaeth Cyd-Gyfarwyddwyr y Rhaglen, sef Stephen Clear a Dr Marie Parker, mae Cyfres ‘Legal World’ yn gofyn am i fyfyrwyr drefnu, o’u gwirfodd, gynadleddau a digwyddiadau cymdeithasol ar bynciau cyfreithiol yng nghyswllt gwahanol gyfandiroedd a rhanbarthau. Myfyrwyr sy’n arwain y gyfres yn ei chrynswth, wrth iddynt roi’r cyflwyniadau a dewis y digwyddiadau cymdeithasol thematig sy’n dilyn – yr unig amod yw bod yn rhaid i’r sesiynau fod yn agored i bawb, hysbysu eraill ynglŷn â gwahanol gyfundrefnau cyfreithiol a hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol.
Penodwyd tîm o saith o israddedigion â meddylfryd rhyngwladol i arwain y sesiynau thematig: Miriam Mbah (Cydlynydd Myfyrwyr dros Affrica); Nigel Hughes (Cydlynydd Diwrnod AffricaMyfyrwyr dros y Deyrnas Unedig); Laura Jäger (Cydlynydd Myfyrwyr dros Ewrop a Chynrychiolydd Rhyngwladol Cymdeithas y Gyfraith 2013-2014); Mohammed Khoransanee (Cydlynydd Myfyrwyr dros y Dwyrain Canol a Chynrychiolydd Myfyrwyr Cymdeithas y Gyfraith 2012-2013); William Carlsen (Cydlynydd Myfyrwyr dros yr Americâu a Chanada); Sarah Langham (Cydlynydd Myfyrwyr dros Awstralia ac Ynysoedd y De); a Kamrul Hassan (Cydlynydd Myfyrwyr dros Asia).
Lansiodd Miriam y gyfres yn ôl yn Chwefror 2014, gyda’i digwyddiad ar Affrica. Rhoddodd myfyrwyr o Nigeria, Swdan a Zambia amrywiaeth o gyflwyniadau ar bynciau megis y Gyfundrefn Gyfreithiol yn Swdan, Iawndal am Gaethwasiaeth, Cyngor Cymorth Cyfreithiol Nigeria a Chyfreithiau Zambia ar Gyflogaeth. Cyd-noddwyd y digwyddiad cymdeithasol a ddilynodd, A Taste of Africa, gan Gymdeithas Affro-Garibïaidd Undeb y Myfyrwyr, wrth i fyfyrwyr y Gyfraith flasu amrywiaeth o ddanteithion Affricanaidd a dysgu rhai symudiadau dawns traddodiadol Affricanaidd.
Cynhaliwyd digwyddiad Nigel ar y Deyrnas Unedig ddechrau Mawrth 2014, a chefnogwyd ef gan Gymdeithas Gyfraith y Myfyrwyr a grwpiau Cyfraith Stryd ac Eiriolaeth Gyfreithiol. Cynhaliwyd dadleuon amserol a thestunol, a’r cyflwyniadau’n canolbwyntio ar faterion megis refferendwm yr Alban, annibyniaeth i Gymru a’r berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Senedd y DU. Cefnogwyd y digwyddiad gan Gymdeithas Goginio Prifysgol Bangor, wrth i’w haelodau bobi amrywiaeth o gacennau te a sgonau.Diwrnod y DU: Bronwen Hughes yn gofyn "Ai Annibyniaeth yw'r Dyfodol i Gymru?"
Yna, yr wythnos ddilynol, cynhaliwyd sesiwn Ewropeaidd Laura, lle bu myfyrwyr o Romania, Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon yn cyflwyno materion cyfreithiol yn gysylltiedig â thlodi, mewnfudo a chyfraith droseddol. Ar ôl y digwyddiad Ewropeaidd, cafwyd dosbarth dawns salsa i ddechreuwyr, a gyflwynwyd gan Glwb Dawns Prifysgol Bangor.
Dilynwyd hynny gan gyfraniad Mohammed at y rhaglen, wrth i’w ddigwyddiad ef gynnwys trafodaeth gan fyfyrwyr o Bacistan a Chwrdistan ar bynciau megis mudiadau cyfreithwyr a hanes cyfreithiol. Yna, cafwyd dangosiad o Jinnah, corwynt o ffilm wleidyddol-gyfreithiol.
Tua diwedd mis Mawrth, cyflwynodd William ei ddigwyddiad ar yr Americâu a Chanada. Cafwyd cyflwyniadau gan fyfyrwyr o UDA, Canada a Sri Lanka ar bynciau mor amrywiol â chyfraith amgylcheddol a mwyngloddio olew, y ddadl yn UDA ar reoli drylliau a brwydr America ynglŷn â chyffuriau. Roedd y sesiwn hefyd yn cynnwys ymddangosiad gan westai arbennig, sef twrnai’r perfformiwr cerddorol Snoop Dog, sef Mr William Levin, a fu’n trafod methiannau’r system gyfiawnder Americanaidd. Daeth y sesiwn i ben gyda digwyddiad cymdeithasol ar themâu Americanaidd/ Mecsicanaidd.
Yr wythnos ddilynol, Sarah arweiniodd y rhaglen ar Awstralia ac Ynysoedd y De. Roedd y cyflwyniadau’n cynnwys trafodaethau ar y Barriff Mawr, mewnfudwyr a smyglir i mewn i Awstralia, cymhlethdodau cyfreithiol yng nghyswllt masnachu mewnol, a hawliau pobloedd brodorol. Yna, cafwyd cwis tafarn thematig, a gyflwynwyd gan gydweithredu â Chymdeithas Gyfraith y Myfyrwyr.Blas o Affrica yn ystod Diwrnod Affrica
Daeth Cyfres 2014 i ben ym mis Mai gyda digwyddiad Asiaidd Kamrul. Noddwyd y digwyddiad ar y cyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, a’r cyfranogwyr yn cynnwys myfyrwyr o Fangladesh, Tsieina, India a Phacistan. Rhoddwyd cyflwyniadau ar boblogrwydd cynyddol Cymdeithas De Asia dros Gydweithrediad Rhanbarthol, yn ogystal ag ar gyfleoedd i astudio a theithio yn Tsieina (trwy Ysgolion Haf Confucius). Cafwyd hefyd gyflwyniad gan Meng Yu o Sefydliad Confucius i gyfundrefn gyfreithiol Tsieina. Daeth y rhaglen i ben gyda digwyddiad rhwydweithio dros de Tsieineaidd.
“Yn ystod y gyfres, buom yn cyflwyno 15.5 awr o ddeunydd allgyrsiol i 138 o fyfyrwyr o 25 wledydd gwahanol, gyda 34 o’r myfyrwyr hynny’n traddodi eu cyflwyniadau eu hunain,” meddai Stephen Clear. “Mae’r rhaglen nid yn unig wedi hyrwyddo’r broses o ryngwladoli o fewn Ysgol y Gyfraith, a phwysleisio buddion dysgu gan gyd-fyfyrwyr, ond mae hefyd wedi dangos mor greadigol na brwdfrydig yw ein myfyrwyr. Pleser o’r mwyaf beth oedd gweld cymysgedd mor wych o fyfyrwyr cartref a rhyngwladol ym mhob digwyddiad.
Ychwanegodd: “Wrth i Gymdeithas Gyfraith Myfyrwyr Prifysgol Bangor ymgymryd yn llwyr â’r rhaglen y flwyddyn nesaf, rydym yn edrych ymlaen at weld y Kamrul Hassan yn cyflwyno yn ystod Diwrnod Asiagweithgareddau’n mynd o nerth i nerth – diolch yn arbennig i bawb a fu’n cyfranogi!”
Ewch i dudalen ‘Legal World Series’ ar Facebook am fwy o wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2014