Myfyriwr y Gyfraith yn cael ei dewis ar gyfer cwrs gwerthfawr
Mae myfyrwraig sydd yn astudio’r Gyfraith ym Mangor wedi derbyn cyfle unigryw i ennill sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa gyfreithiol broffesiynol ar ôl cael ei dewis i fynychu ysgol breswyl o fri ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf y gyfraith yn Llundain.
Gyda dim ond 100 o lefydd ar gael, wynebodd Emma Newens, sy’n 20 oed, gystadleuaeth galed i gael lle yn Ysgol Haf y ‘City Solicitors’ Education Trust’ ac aeth drwy broses ddethol ddwys ar ôl ei chais cychwynnol, a oedd yn cynnwys prawf ar-lein ar gyfer meddwl yn ddadansoddol, ac wedyn cyfweliad ar y ffôn.
“Roeddwn i wedi synnu pan gynigwyd lle i mi, oherwydd ro’n i’n gwybod bod y gystadleuaeth a’r safon yn uchel iawn, ond dwi’n gyffrous iawn” meddai Emma o Fae Colwyn, sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf o radd LLB y Gyfraith gyda Chyfrifeg a Chyllid ym Mangor.
Cynhelir y cwrs preswyl hyfforddiant sgiliau dwys pedwar diwrnod ym mis Gorffennaf yn y Queen Mary University of London. Bydd yn cynnwys sesiynau ar gyfraith ymarferol, ymwybyddiaeth fasnachol, techneg mewn cyfweliad, cystadlaethau dadlau, gwaith achos a chyfle i weithio ar astudiaethau achos ymarferol ac ymarferion dadlau gyda chyfreithwyr o rai o’r cwmnïau cyfreithiol gorau.
Mae Emma’n gobeithio y bydd y cwrs yn ei helpu i gynllunio’i gyrfa yn y gyfraith, a rhoi mantais gystadleuol iddi. “Ar hyn o bryd, rydw i’n ceisio cael gymaint o brofiad cyfreithiol ag sy’n bosibl mewn amrywiaeth o feysydd er mwyn datblygu sgiliau allweddol a helpu i benderfynu fy llwybr gyrfa yn y dyfodol. Rydw i eisoes wedi gwneud profiad gwaith gyda chyfreithiwr amddiffyn achosion troseddol, ac rydw i wedi cael fy nerbyn ar gyfer tymor prawf byr gyda Linenhall Chambers yng Nghaer yn yr haf.”
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2011