Myfyrwyr a staff yn mynd ar daith arbennig iawn i China
Ym Mawrth 2012 aeth myfyrwyr a staff o Ysgol Busnes Bangor ar daith arbennig iawn i China.
Ar fore Llun oer cychwynnodd pedwar ar ddeg o fyfyrwyr ac aelodau staff, sef John Goddard (Dirprwy Bennaeth yr Gwers Kung Fu yn ShanghaiYsgol), Sarah Wale (Rheolwr yr Ysgol), Yizheng Wang (Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Ryngwladol) a Peter Westmoreland (Cyswllt Myfyrwyr a Chynorthwywr Ymchwil), o Fanceinion. Shanghai oedd eu cyrchfan gyntaf. Roedd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr yn astudio’r modiwl blwyddyn gyntaf ‘Yr Iaith Tsieineaidd a Busnes’. Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau ieithyddol a masnachol sydd eu hangen i ddelio â chenedl fwya'r byd, a chynigir y daith faes 10 niwrnod ddewisol hon i rai o brif ddinasoedd China.
Treuliwyd y tri diwrnod cyntaf yn Shanghai. Yno aeth y grŵp i ysgol Kung Fu, dysgu sut i wneud twmplenni traddodiadol, mynd i ben adeilad uchaf China, cael taith cwch gyda’r nos ar Afon Huangpu, a chael pryd bwyd efo Alan Anderson, Cyfarwyddwr Rheoli Rhaglen Gerbydau yn SAIC Motor UK.
Ar y ffordd i’w cyrchfan nesaf, Nanjing, aeth y criw o Brifysgol Bangor i ymweld â Gardd y Gweinyddwyr Gwylaidd yn Ymweld â Stadiwm 'Nyth Adar' yn safle Gemau Olympaidd Beijing 2008Suzhou, Safle Treftadaeth Byd a ystyrir yn un o erddi gorau China.
Ar ôl cyrraedd Nanjing, aeth y grŵp i’r Neuaddau Myfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Hohai am eu harhosiad tri diwrnod. Tra oeddent yno fe wnaethant gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol – yn cynnwys gwersi Tai Chi a chaligraffi a phaentio Tsieineaidd traddodiadol – yn ogystal ag ymweld â Chladdfa Sun Yat-sen, Neuadd Goffa Cyflafan Nanjing, a Pharc Llyn Xuanwu.
Daeth y daith nodedig hon i ben gydag arhosiad ym mhrifddinas China, Beijing, a theithiwyd yno ar y trên fwled enwog sy’n teithio ar gyflymder o 300-kph. Cafodd y grŵp gyfle i ymweld â rhai o olygfeydd mwyaf nodedig China yn Beijing, yn cynnwys Sgwâr Tian’anmen, y Ddinas Waharddedig, y Palas Haf, Yn y Ddinas Waharddedig, BeijingWal Fawr China a’r Stadiwm Olympaidd.
“Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i’n cael cyfle fel myfyriwr i ymweld â Shanghai, Suzhou, Nanjing a Beijing. Mae’n daith na wna i byth ei hanghofio a dwi’n siŵr na fydd y lleill yn ei hanghofio chwaith. Roedd yn brofiad swreal a dweud y lleiaf i deithio i ochr arall y byd gyda deunaw o bobl eraill. Roeddwn i’n adnabod rhai ohonyn nhw, yn gwybod am eraill, ond erioed wedi gweld rhai ohonyn nhw nes i ni gyrraedd y maes awyr. Ond wrth sgwrsio a chymdeithasu, buan y daethom i adnabod ein gilydd. Roedd yn brofiad bythgofiadwy ac yn daith y byddwn yn ei hargymell i eraill heb feddwl ddwywaith! Diolch i’r staff a sicrhaodd bod y daith yn gymaint o lwyddiant.” – Ross Starkie, Cyfrifeg a Chyllid (Blwyddyn 1)
“Dwi yn fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol ac roeddwn eisiau mynd ar y daith y llynedd ond fedrwn i ddim. Felly, pan ddaeth y cyfle eleni, fe fanteisiais arno’n syth. Dwi wedi bod eisiau mynd i China erioed ac roedd yn rhyfeddol. Dwi’n dal i fethu credu fy mod i wedi bod yno a gweld yr holl lefydd enwog hynny a dwi mor falch i mi fynd. Roeddwn ychydig yn betrus gan nad oeddwn ond yn adnabod un o’r criw cyn i ni gychwyn, ond fe wnes i ffrindiau efo pawb yn fuan. Roedd y grŵp i gyd yn rhyfeddol ac ar ôl ychydig ddyddiau roedd yn teimlo fel pe bawn i wedi eu hadnabod am lawer mwy. Roedd pawb yn cymysgu’n braf ac yn cael digon o hwyl efo’i gilydd. Dwi’n anturus efo bwyd, felly roeddwn i wrth fy modd yn rhoi cynnig ar y gwahanol fathau o fwydydd yno, ac fe gawsom ni brofi pethau rhyfedd iawn. Roedd yn daith fythgofiadwy a hoffwn ddiolch i bawb ohonoch a’i gwnaeth mor arbennig.” – Nia Evans, Cyfrifeg a Chyllid (Blwyddyn 3)
Wal Fawr China
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2012