Myfyrwyr Busnes a'r Gyfraith yn ymweld â chalon yr Undeb Ewropeaidd
Mae myfyrwyr o Ysgol Busnes ac Ysgol y Gyfraith, Bangor wedi ymweld â rhai o sefydliadau allweddol yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop, diolch i nawdd gan Jill Evans, Aelod Cymreig o Senedd Ewrop.Belinda Bambrick (Cyfraith), Kateryna Vlada (Cyfraith) and Hans Seesarun (Busnes) yn gwrando ar gyflwyniadau gan Bwyllgor y Rhanbarthau a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol yn adeilad Delors, Brwsel.
Unodd myfyrwyr o'r ddwy Ysgol ar gyfer yr ymweliad maes unigryw hwn, sydd wedi cael ei gynnal ers cryn amser bellach. Bwriad y daith oedd rhoi gwell dealltwriaeth i fyfyrwyr am swyddogaethau gwahanol sefydliadau yn yr Undeb Ewropeaidd a sut maent yn rhyngweithio gyda sefydliadau allweddol a chyfraith ddomestig yn y DU. Rhoddodd gyfle iddynt weld yn uniongyrchol hefyd sut mae disgyblaethau'r gyfraith a busnes yn dylanwadu ar ei gilydd.
Dan arweiniad Brian Jones, Darlithydd mewn Rheolaeth Strategol a Gweinyddu Cyhoeddus yn yr Ysgol Fusnes ac Evelyne Schmid, Darlithydd mewn Cyfraith Ryngwladol ac Ewropeaidd yn Ysgol y Gyfraith, cynigir y daith yn flynyddol i israddedigion sy'n astudio'r modiwlau 'Prydain a'r UE' neu 'Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd'.
Dechreuodd taith wleidyddol y myfyrwyr ym Mrwsel, lle buont yn ymweld â'r Comisiwn Ewropeaidd, Pwyllgor y Rhanbarthau, y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol a'r Cyngor Ewropeaidd. Aethpwyd ymlaen wedi i Luxembourg, lle cafodd y grŵp gyfle i ymweld ag un o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor, Thomas Seligmann, a fu ar yr ymweliad maes ei hun y llynedd ac sy'n awr yn gweithio i Amazon yn eu swyddfeydd yn Luxembourg.
Y diwrnod wedyn ymwelwyd â'r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd, lle cafodd y myfyrwyr wybodaeth ynghylch achos neilltuol a chyfarfod â'r Barnwr J. Azizi a'r Myfyrwyr yn gwrando ar gyflwyniadau yn adeilad Delors, Brwsel, mewn lleoliad nodweddiadol ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau ymgynghorol yr Undeb Ewropeaidd. Ysgrifennydd Cyfreithiol Mr C. Zatschler. Yn ddiweddarach y noson honno, ymwelodd y grŵp â'r Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg, lle gwnaethant gyfarfod â'r noddwr Jill Evans a mynychu un o sesiynau'r senedd.
Mae Strasbourg yn gartref hefyd i Lys Hawliau Dynol Ewrop, lle cafodd y garfan o Fangor y fraint o wrando ar ddarllen y dyfarniad yn achos Khaled al-Masri v. Macedonia. Roedd hwn yn achos pwysig lle gorchmynnwyd i Facedonia dalu iawndal o 60,000 Ewro i al-Masri, dinesydd Almaenaidd, ar ôl iddo gael ei arestio, ei boenydio a'i drosglwyddo i'r Unol Daleithiau. Yno cafodd ei gam-drin am fisoedd gan y CIA er nad oedd yn euog o unrhyw drosedd. "Hwn oedd y tro cyntaf i wladwriaeth Ewropeaidd gael ei dal yn gyfrifol am gymryd rhan mewn gweithrediadau cudd gan yr Unol Daleithiau yng nghyd-destun y mesurau gwrth-derfysgaeth yn dilyn 9/11," eglurodd Evelyne Schmid. Yn dilyn hyn ymwelwyd â phrif adeilad Cyngor Ewrop, lle cawsant eu croesawu gan Alun Drake, Llefarydd a Phennaeth Adran y Wasg. Daeth y daith i ben mewn steil ym Mharis.
“Roedd hwn yn ymweliad maes arbennig o dda gyda siaradwyr gwych, ac roedd cael clywed y dyfarniad yn achos pwysig Khaled al-Masri v. Macedonia yn y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd yn uchafbwynt cofiadwy, meddai Brian Jones, trefnydd y daith. “Mae hon yn daith gymhleth a hynod brysur. Mae angen cryn ymroddiad o du'r myfyrwyr, gan eu bod yn cael llawer iawn o wybodaeth gan amrywiaeth o siaradwyr mewn wyth gwahanol sefydliad mewn tair dinas. Y rheswm pam fod y daith hon, a'r rhai blaenorol, wedi bod mor llwyddiannus yw oherwydd ymroddiad a gwaith caled y myfyrwyr wrth iddynt fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a geir drwy'r daith."
Fe wnaeth rhestr faith o siaradwyr eraill groesawu'r myfyrwyr i'r cyfandir, yn cynnwys Mark Corner, aelod o dîm y llefarydd yn y Comisiwn Ewropeaidd; Y grŵp yn ymweld â Llys Cyfiawnder Ewropeaidd yn LuxembourgJean-Pierre Faure o'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewropeaidd; Kristien Michoel, Cynghorwr Cyfreithiol yng Nghyngor yr Undeb Ewropeaidd; ac Aysegul Uzun-Marinkovic, cyfreithiwr yn y Llys Hawliau Dynol Ewropaidd.
"Mae'r cydweithio hwn rhwng Ysgolion Busnes a'r Gyfraith yn ei wneud yn brofiad cyfoethocach i'r ddau grŵp o fyfyrwyr, ac rydym eisoes yn trefnu ymweliad astudio 2013," ychwanegodd Mr Jones.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2013