Ysgoloriaethau Teithio y Cwmni Lifrai Cymraeg ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol
Ar 8 Mai 2014, croesawyd aelodau o’r Cwmni Lifrai Cymraeg i Ysgol y Gyfraith Bangor. Daeth Mr Windsor Coles, sef Meistr y Cwmni Lifrai, a Mr Andrew Richards, i gyflwyno Ysgoloriaethau yr Athro Eric Sunderland i ddau o ymgeiswyr PhD yr Ysgol. Mae’r ddau ymgeisydd llwyddiannus, sef Ms Tamara Bukatz o’r Almaen a Ms Van Anh o Vietnam, yn ymgymryd â PhD ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol.
Wedi’u ffotograffu (chwith i dde):
Mr Aled Griffiths (Dirprwy Pennaeth, Ysgol y Gyfraith Bangor), Mr Windsor Coles (Meistr y Cwmni Lifrai Cymraeg), Ms Van Anh (myfyrwraig PhD), Ms Tamara Bukatz (myfyrwraig PhD), Mr Andrew Richards (y Cwmni Lifrai Cymraeg), a Mr Mark Hyland (Darlithydd yng Nghyfraith Eiddo Deallusol a goruchwyliwr yr ymgeiswyr llwyddiannus, Ysgol y Gyfraith Bangor).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014