Graddio 12 Rhagfyr 2019 i 13 Rhagfyr 2019
Er mwyn sicrhau y gallwch ddod i'r seremoni, mae arnoch angen cwblhau'r prosesau canlynol:
1] cadarnhau'ch presenoldeb
2] prynu tocynnau i westeion
3] archebu'ch gwn academaidd
1] Presenoldeb
Cofrestru yma o 4 Hydref 2019
Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn 4pm 15 Tachwedd 2019 a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y cyswllt i gofrestru yma o 4 Hydref 2019
Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn 4pm 15 Tachwedd 2019
Ar y diwrnod:
Dylai myfyrwyr yn unig gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau un awr cyn cychwyn y seremoni i gofrestru eu presenoldeb. Cofiwch ddod ach cerdyn adnabod Prifysgol Bangor gyda chi.
2] Tocynnau
Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG. Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn 4pm 15 Tachwedd 2019, am £12.00 yr un.
Gallwch archebon tocynnau ar-lein drwy 'MyBangor'.
Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn 4pm 15 Tachwedd 2019, ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.
Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain eu rhoi ar werth o 9am 25 Tachwedd 2019 tan 5pm 28 Tachwedd 2019 os nad yw'r ticedi eisoes wedi gwerthu allan. Bydd y tocynnau'n costio £12.00 yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.
Dim ond ar-lein y gellir prynu tocynnau.
NI anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Casglu Tocynnau:
Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Seremoni 1 (11:00yb) - 8:30yb i 10:30yb
Seremoni 2 (3:00yp) - 12:30yp i 2:00yp
Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu 30 munud cyn dechrau'r seremoni.
Plant:
Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn. O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.
Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn pris llawn i westeion i gael mynd i'r seremoni. Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau. Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.
Gwesteion ychwanegol:
Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn.
3] Archebu gwn academaidd
Archebir Gynau Academaidd gan Ede and Ravenscroft, a cheir manylion pellach dan Gwisg Academaidd.
Nodwch ei fod yn rhatach i archebu gynau o flaen llaw na thalu ar y diwrnod.