Darganfod Ein Dyddiau Agored
Gweld MwyPwy ddylai fynychu Diwrnod Agored?
- Darpar fyfyrwyr israddedig, gan gynnwys myfyrwyr aeddfed
- Rhieni, gofalwyr a chefnogwyr
Dylai darpar fyfyrwyr ôl-raddedig fynychu’r Digwyddiad Ôl-raddedig ar ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd 2026.
Pam ymweld â Phrifysgol Bangor?
I gael yr atebion i rai o'ch cwestiynau pwysicaf, mae gofyn ymweld â'r Brifysgol:
- Allwch chi ddychmygu eich hun yn byw yma?
- Pa bentref myfyrwyr sy'n teimlo'n gartrefol i chi?
- Sut gymuned sydd yma o ran y myfyrwyr a'r academyddion?
- Allwch chi weld eich hun yn dod yn rhan o gymuned myfyrwyr Bangor?
Mae ein Diwrnod Agored yn rhoi'r cyfle i chi ateb y cwestiynau hyn drosoch eich hun. Erbyn diwedd y Diwrnod Agored, byddwch wedi cael blas ar fywyd myfyriwr yma a byddwch gam yn nes at benderfynu os mai Bangor yw'r lle i chi.
Beth allwch chi ei wneud mewn Diwrnod Agored?
- Ymweld â'n Llety i Fyfyrwyr, edrych o amgylch y mannau cymunedol a gweld lle y gallech fod yn byw.
- Cwrdd â myfyrwyr presennol a gofyn cwestiynau am fywyd myfyrwyr, astudio ym Mangor, llety, cymdeithasau a gwneud ffrindiau.
- Sgwrsio ag academyddion i ddysgu mwy am eich Maes Pwnc, cynnwys y cwrs, addysgu, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gyrfa.
- Darganfod eich mannau dysgu gan weld darlithfeydd, cyfleusterau arbenigol, y llyfrgell a'r mannau astudio sy'n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr bob dydd.
- Mynychu cyflwyniadau ar faterion fel bywyd myfyrwyr a chyllid.
- Cael blas ar fywyd campws drwy fynd am ginio neu goffi ar y campws a gweld sut beth yw bywyd y tu hwnt i'r darlithoedd.
- Cerdded o amgylch y ddinas, ymweld â'r ardal gyfagos a darganfod pam mae cymaint o fyfyrwyr yn dewis dod i astudio yma.
Cofrestru Ar Ddiwrnod Agored
Cysylltu â ni am y Diwrnod Agored
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall.
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin am y Dyddiau Agored
- Mae Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor ar gyfer darpar fyfyrwyr israddedig, gan gynnwys myfyrwyr aeddfed
- Mae croeso hefyd i rieni, gofalwyr a chefnogwyr fynychu.
Dylai darpar fyfyrwyr ôl-raddedig fynychu’r Digwyddiad Ôl-raddedig ar ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd 2026.
Nac oes, nid oes angen i chi fod wedi gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor i fynychu Diwrnod Agored. Mae Diwrnodau Agored wedi’u cynllunio i’ch helpu i archwilio’ch opsiynau ac i benderfynu ai Prifysgol Bangor yw’r dewis iawn i chi.
Ydyn, mae croeso i rieni, gofalwyr a chefnogwyr fynychu Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor. Ond y person sy’n bwriadu mynychu’r Brifysgol sydd angen archebu lle ar y Diwrnod Agored. Fodd bynnag, rhowch wybod i ni ymlaen llaw drwy e-bostio diwrnodagored@bangor.ac.uk0 os oes gan unrhyw un yn eich grŵp anabledd neu broblemau symudedd, er mwyn i ni allu gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Oes, gofynnwn i chi gofrestru eich lle i fynychu Diwrnod Agored Prifysgol Bangor. Nid oes angen i aelodau eraill o’ch grŵp gofrestru.
Os nad ydych yn gallu mynychu unrhyw un o'r Dyddiau Agored am unrhyw reswm ac yr hoffech drefnu ymweliad unigol â’r Brifysgol, anfonwch e-bost at diwrnodagored@bangor.ac.uk
Dewch i Grwydro o Amgylch ein Campws
Pam Dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?