Colli un o hoelion wyth Hanes Cymru

Ar 4 Hydref eleni bu farw’r Athro Emeritws John Gwynn Williams, gŵr a dreuliodd ei oes yn hyrwyddo a datblygu astudiaeth  o hanes Cymru. Yr oedd yn aelod blaenllaw o gylch eithriadol o haneswyr y gellid eu galw’n ail genhedlaeth o arloeswyr Hanes Cymru, cylch a oedd yn cynnwys Glanmor Williams, Ieuan Gwynedd Jones, Gwynedd Pierce a J. Gwynn ei hun. Trwy’r rhain y cadarnhawyd astudiaeth o Hanes Cymru fel gwyddor gydnabyddedig yn y byd academaidd a rhoi seiliau cadarn i hunaniaeth Cymru trwy wneud hynny.

Yr oedd ganddo wreiddiau ym Mawddwy, ond yn sir y Fflint y magwyd ef ac yr oedd yn falch iawn o’r gynhysgaeth Gymreig honno lle ‘roedd cymdeithas wledig a diwydiannol yn cyd-blethu. Ganwyd ef ym 1924 mewn cyfnod o wasgfa ar y gymdeithas ddiwydiannol, ond mab i weinidog Wesleaidd oedd J. Gwynn a manteision addysg yn ddylanwad ar y teulu. Yr oedd yn ddisgybl disglair yn Ysgol Sir Treffynnon, lle magodd gyfeillgarwch oes â’r diweddar Syr Ronald Waterhouse.

Wedi  cyfnod yn y llynges datblygodd ei ddisgleirdeb fel hanesydd wrth ddod o dan ddylanwad A.H. Dodd ac R.T. Jenkins fel myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd.  Dylanwad Dodd, yn anad neb arall, a fagodd ynddo’i ddiddordeb yn hanes yr ail ganrif ar bymtheg, ac R.T. Jenkins yn meithrin diddordeb pellach ym mhwysigrwydd y ganrif honno i Gymru. Penodwyd J. Gwynn yn bennaeth ar yr Adran Hanes Cymru ym Mangor ac yn Athro Hanes Cymru yn bur fuan yn ei yrfa ym 1963 a daliodd y swyddi hyn tan ei ymddeoliad ym 1983. Tyfodd yr Adran Hanes Cymru o dan ei oruchwyliaeth ym Mangor erbyn diwedd y saithdegau i fod yn un ag iddi bedwar aelod o staff ac yn cynnig y cyfan a ddysgwyd trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd – yr unig un i wneud hynny ar y pryd.

Cyhoeddodd, yn ystod y saithdegau, gyfres o erthyglau trawiadol ar gymdeithas yr ail ganrif ar bymtheg, erthyglau  a oedd yn arloesol yn eu dydd am daflu golau ar haenau isaf cymdeithas ac yn dilyn methodoleg haneswyr yr Annales yn Ffrainc. Dyma fu ei brif ddiddordeb tan ddiwedd y saithdegau, pan gychwynnodd ymchwilio i hanes ei goleg ei hun ym Mangor, a chyhoeddi cyfrol ar hynny ym 1985. Aeth ymlaen i ymchwilio’r mudiad i sefydlu prifysgol yng Nghymru’n fwy cyffredinol, a chyhoeddi ffrwyth hynny ym 1993 a 1997. Yr oedd y rhain oll yn ddadansoddiadau craff nid yn unig o’r sefydliadau fel y cyfryw ond hefyd o gymdeithas ac amgylchiadau gwleidyddol y cyfnod.  Trueni, efallai, na chafodd y cyfle i gyhoeddi ymhellach ar yr ail ganrif ar bymtheg, cyfnod yr oedd yn feistr arno yn ei ddysgu.

Yr oedd yn addysgwr a ysbrydolodd sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr, gan gynnwys Catrin Stevens, Glyn Parry a Leighton Andrews, a’i hiwmor sych a’i ddywediadau bachog yn gofiadwy. Bu’n gwasanaethu i hyrwyddo hanes Cymru mewn nifer o feysydd arwyddocaol. Yr oedd yn Is-brifathro CPGC, Bangor 1974-1979 ynghanol berw’r protestiadau yn erbyn prinder y defnydd o’r Gymraeg gan weinyddiaeth y Coleg a bu’n ddigon dewr i droi o fod yn bleidiwr y sefydliad i hyrwyddo’r achos Cymreig yn y pen draw. Bu hefyd yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru, yn aelod o Gomisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru 1967-1991 ac yn Is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Yr oedd y lleol mor bwysig iddo â’r cenedlaethol. Bu’n Gadeirydd gweithgar Cyngor Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, er enghraifft ac yn Llywydd arni. Bu hefyd yn Is-lywydd ar Gymdeithas Hanes ei sir enedigol, Sir y Fflint, ac yn olygydd ei chylchgrawn. Derbyniodd hefyd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys CBE, Doethur mewn Llenyddiaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru a Chymrawd Anrhydeddus Prifysgol Bangor (2007).

Gedy weddw, yr awdur Beryl Stafford Williams, a thri mab, William, Guto a Tomos.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017