Cynhadledd ryngwladol, City Margins, City Memories, 7-8 Ebrill, 2014
Gan gydweithredu â’r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor, mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd wedi trefnu’r gynhadledd ryngddisgyblaethol ryngwladol, City Margins, City Memories, i’w chynnal ar 7-8 Ebrill, 2014 yn Ysgol Astudiaeth Uwch Prifysgol Llundain, Senate House, Llundain. Noddir y gynhadledd gan Ganolfan Archifau ac Ymchwil Opus (Califfornia, UDA) a’r Sefydliad Ymchwil i Ieithoedd Modern (Llundain, DU). Am fwy o fanylion, yn cynnwys y rhaglen lawn, ewch i’n gwefan
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2013