Doethur newydd yn yr Ysgol Hanes
Mae gan yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg bellach ddoethur newydd, wedi i Dr Owain Wyn Jones basio’i arholiad viva PhD ar Ionawr yr 8fed.
Cwblhaodd Owain ei ddoethuriaeth, a arianwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mewn tair blynedd, a chafodd ei oruchwylio gan yr Athro Huw Pryce. Archwiliodd ei ymchwil ysgrifennu hanesyddol yng Nghymru’r Oesoedd Canol, ac yn ôl Owain:
‘Roedd y viva’n brofiad pleserus iawn yn y diwedd – roedd yn braf medru trafod fy nhestun gydag arholwyr oedd mor gyfarwydd â’r maes astudio. Roeddwn yn arbennig o falch fod David Stephenson a Julia Crick wedi gweld cryfderau yn yr hyn a dybiwn i oedd yn wendidau yn y ddoethuriaeth. Derbyniais gymaint o sylwadau defnyddiol, ac rwy’n ddiolchgar i fy arholwyr ac i fy ngoruchwyliwr am eu harweiniad.’
Bydd Owain yn addysgu modiwl cyfrwng Cymraeg o’r enw Môr-ladron a Brenhinoedd y Môr yn yr Ysgol Hanes yn ystod Semester 2, a bydd yn gweithio’n ogystal ar ddatblygu’i ddoethuriaeth ar gyfer ei chyhoeddi.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2014