Dr Farhaan Wali yn ennill "Athro/Athrawes Newydd y Flwyddyn" yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bango
Enillodd Dr Farhaan Wali wobr "Athro/Athrawes Newydd y Flwyddyn" yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae Farhaan yn dysgu israddedigion a myfyrwyr ôl-radd. Mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn cael eu cynnal gan Undeb y Myfyrwyr ar y cyd â'r Brifysgol ac yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff dysgu a staff cefnogi Bangor. Myfyrwyr sy'n cynnig yr enwebiadau ar gyfer yr holl wobrau. Mae Farhaan yn cyfrannu at draddodiad yr Ysgol o ragoriaeth mewn dysgu ac ymroddiad i brofiad myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014