Dr Lucy Huskinson yn ennill gwobr Athro'r Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Enillodd Dr Lucy Huskinson wobr Athro'r Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae Lucy'n dysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Yn ogystal ag ennill y wobr hon, fe'i henwebwyd am ddwy wobr arall hefyd: Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol, a Goruchwyliwr y Flwyddyn. Undeb Myfyrwyr Bangor ar y cyd â'r Brifysgol sy'n cynnal y cynllun Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, ac maent yn cydnabod ymroddiad staff dysgu a staff cefnogi Prifysgol Bangor. Y myfyrwyr sy'n gwneud yr enwebiadau ar gyfer yr holl wobrau.
Dyma ddywedodd rhai o fyfyrwyr Lucy amdani wrth ei henwebu am wobr Athro'r Flwyddyn.
“Students benefit greatly from her enthusiasm. She has the ability to make lectures and seminars come to life. What is particularly evident throughout Lucy's teaching is the ability to inspire…”
“…she makes you want to learn more”
“Lucy is never too busy to see you, even if it’s the third time that week concerning the same assignment worries!!”
“Her skill as a teacher in my experience is exemplary; her passion for her subject is communicated so clearly and is infectious. She obviously has a fantastic understanding of student's different learning methods as she offers the information in a myriad of different ways…”
Cliciwch yma i ddarllen mwy am enwebiadau myfyrwyr Lucy.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2013