Dyfarnu ysgoloriaeth ymchwil gwadd pwysig i athronydd ym Mangor
Dyfarnwyd grant Mythos o $4500 i Dr Lucy Huskinson, uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Athroniaeth a Chrefydd iddi wneud ymchwil pellach i ffenomenoleg pensaernïaeth a dylunio trefol yn yr Opus Archives and Research Center, yn Santa Barbara, yr Unol Daleithiau. Defnyddir rhywfaint o'r wobr ariannol i drefnu'r gynhadledd, City Margins, City Memories (Ebrill 2014) y mae'n ei threfnu gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Cyhoeddir ei monograff, Architecture of the Psyche: how buildings make and break our lives gan Routledge: London and New York (2014).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2013